Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Sgandal' gwaed: Galw ar ddioddefwyr i roi tystiolaeth
Mae yna alwad ar y rhai a ddioddefodd yn sgil "sgandal gwaed" y Gwasanaeth Iechyd yn y 70au a'r 80au i ddod i roi tystiolaeth wrth i ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd ddechrau ddydd Llun.
Cafodd miloedd o bobl eu heintio 芒 HIV a hepatitis C wedi iddynt gael gwaed heintiedig yn ystod trallwysiad gwaed a thriniaethau eraill.
Wedi 30 mlynedd o alw am ymchwiliad bydd y Senedd yn cyhoeddi ffurf a phwrpas yr ymchwiliad cyhoeddus.
Dywedodd Julie Morgan AC bod yr ymgyrch wedi bod yn un "hir ac anodd".
Bu farw o leiaf 2,400 o bobl ar draws y DU wedi iddynt dderbyn cynhyrchion gwaed heintiedig o dramor.
Roedd 70 o'r rhai a fu farw yn dod o Gymru ac mae 200 yn parhau i ddioddef o afiechydon.
Cefndir y sgandal
Dangosodd adroddiad seneddol yn 2017 fod oddeutu 7,500 o gleifion ar draws y DU wedi cael eu heintio gan gynhyrchion gwaed a oedd wedi cael eu mewnforio.
Roedd nifer o'r cleifion wedi etifeddu yr anhwylder gwaed hemoffilia.
Roedd y cleifion hynny angen triniaeth gyson a oedd yn cynnwys y gweithredydd ceulo gwaed Ffactor VIII - ac y mae hwn yn cael ei wneud o waed sy'n cael ei roi gan eraill.
Fe fewnforiodd y DU waed ac roedd peth ohono, yn ddiarwybod, wedi'i heintio.
Roedd peth o'r plasma a gafodd ei ddefnyddio i wneud y Ffactor VIII wedi cael ei werthu gan roddwyr gwaed a oedd yn garcharorion yn America.
'Sicrhau cyfiawnder'
Dywedodd Julie Morgan, AC Gogledd Caerdydd: "Rwyf wedi bod yn gysylltiedig 芒'r ymgyrch hon ers bron i ugain mlynedd ar 么l i un o'm hetholwyr ofyn i fi pan oeddwn yn aelod seneddol.
"Mae wedi bod yn daith hir ac anodd i gyrraedd fan hyn - mae cael, o'r diwedd, ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan farnwr yn gryn gamp.
"Rwy'n falch bod amodau'r ymchwiliad wedi cael eu cytuno fel y gallwn symud ymlaen i ganfod y gwir a sicrhau cyfiawnder i nifer o deuluoedd o Gymru sydd wedi colli anwyliaid ac sydd wedi dioddef."
Dywedodd Lynne Kelly, cadeirydd Hemoffilia Cymru: "Bydd yr ymchwiliad yn rhyw fath o uchafbwynt i'r teuluoedd sydd wedi dioddef am dros 30 mlynedd gan rywbeth nad oedd yn fai arnyn nhw.
"Ry'n yn croesawu bod gwaith yn cael ei wneud i ymchwilio i'r sgandal gwaed heintiedig ac ry'n yn annog pob dioddefwr i ddod ymlaen ac i'n helpu i gael y gwir."