大象传媒

Ateb y Galw: Yr Archdderwydd Geraint Llifon

  • Cyhoeddwyd
Geraint Lloyd Owen

A hithau'n wythnos yr Eisteddfod yng Nghaerdydd, yr Archdderwydd Geraint Lloyd Owen, neu Geraint Llifon o roi ei enw barddol, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Ges i fy magu mewn siop wledig - y math o siop sydd ddim i'w chael y dyddiau yma gan fod archfarchnadoedd wedi dod i mewn a lladd y gymuned leol a'r siopau bach.

Fy atgof cynta', pan o'n i'n rhyw 4-5 oed, yw gweld y dynion arbennig 'ma yn dod i'r siop i wneud eu neges, ac wrth wneud, yn cael trafodaeth am wahanol bethau, fel y bregeth y Dydd Sul cynt.

Do'n i'm yn dallt tri chwarter o be' oddan nhw'n eu ddeud, ac eto roedd 'na rhyw fagnet yna; o'n i'n mwynhau gwrando arnyn nhw'n siarad.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Fy nghariad cynta' i yn yr ysgol gynradd - Glenys Ty'n Bryn. Fydd pobl y Sarnau yn gwybod pwy 'di hi.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi'n gwneud yn aml iawn iawn. Dwi'n lwmp sentimental. Mae'n haws gen i gr茂o na chwerthin, sy' braidd yn od. Dwi'n cr茂o'n wythnosol dros rywbeth neu'i gilydd.

Dair blynedd yn 么l, gollon ni ein merch, Elliw. Neith rhywun fyth ddod dros y profiad hwnnw. Dwi'n mynd yn aml iawn i'r fynwent lle 'dan ni 'di claddu Elliw druan, ac mae'r dagrau'n dod yn rhwydd iawn bryd hynny.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Iola, ei wraig, mae gan Geraint lawer o arferion drwg...!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae'r wraig yn deud fod gen i ormod! Gadael pethau tan funud dwytha', mae'n si诺r. Dwi'n licio gweithio o dan bwysau, sydd ddim yn rhywbeth byddwn i'n ei gymeradwyo i neb!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

I fyny yn y mynyddoedd, tu allan i bentre' bach Sarnau ym Mhenllyn, mae'r ffordd yn mynd i fyny i'r mynydd ac ar 么l dipyn fedrwch chi ddim mynd yn bellach efo'r car. Ar 么l i chi gerdded rhyw gan llath, 'da chi'n dod at lyn - Llyn Caer Euni.

Mae'n lle distaw iawn iawn, yng nghanol y mynydd mawr, ond roedd yn lle nefolaidd, ac o'n i a mrawd yn cerdded yno o'r siop, ac yn ista ar garreg arbennig yno, yn trin a thrafod barddoniaeth.

A dwi'n dal i gofio'r garreg yna. Mae hi'n garreg ddeallus iawn, os fuodd hi'n gwrando ar ein sgyrsiau ni.

Mae Gerallt wedi sgrifennu am y llyn hwnnw, a'i alw yn 'ddeigryn byw'. Mae'n ogoneddus, ac mae'r lle yn gysegredig i mi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gerallt a Geraint - dau frawd a dau fardd

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Bob nos Fercher byddai brenin yr ardal - Llwyd o'r Bryn i bobl ddiarth, Bob Lloyd i ni yn y Sarnau, sef awdur y 'Pethe' - yn dod acw i warchod y ddau ohonon ni. Byddai Dad wedi mynd allan i sgwrsio efo rhyw gymdeithas neu'i gilydd, a byddai Mam yn yr ysgol, lle byddai Sefydliad y Merched yn cynnal dosbarthiadau yr adeg hynny.

Byddai Bob yn siarad a siarad am bethe 'sa chi'n meddwl oedd dros eich pen chi. Ond roedden ni'n edrych 'mlaen am sgwrs a thrafodaeth. Braint arbennig.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gwyllt, hen ffasiwn, sentimental

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dwi ddim llawer o foi ffilmiau. 'Nai wylio ffilms Westerns a rhai John Wayne dro ar 么l tro. Ond dwi'n cofio pan o'n i rhyw wyth oed, Mam a Dad yn mynd 芒 ni i Langollen i'r sinema i weld The Robe - ffilm Feiblaidd. Ges i fy nghyfareddu ganddi. Dangos fel mae dylanwadau cynnar yn effeithio ar rywun - 'nai fyth ei hanghofio hi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae The Robe yn dilyn stori Marcellus Gallio, sy'n dod o hyd i glogyn Iesu Grist wedi iddo gael ei groeshoelio

Ro'n i'n gwirioni efo llyfr gan Moelona - Teulu Bach Nantoer. Ro'n i'n cael y stori yn yr ysgol fach a nes i swnian ar Dad a Mam i gael prynu'r llyfr i mi gael ei ddarllen adra fy hun. Bob tro o'n i'n cyrraedd y darn lle mae Eiri yn mynd ar goll a phawb yn chwilio amdani, o'n i'n cr茂o.

Flynyddoedd wedyn, dwi'n cofio darllen y llyfr i'r dosbarth pan o'n i'n athro. A dod at y rhan trist hwnnw, yn disgwyl gweld pawb 芒 dagrau yn eu llygaid - ond doedd neb yn cr茂o. Roedd byd plant wedi newid; doedd y teulu yn golygu dim byd erbyn hynny. Ond mae'n llyfr arbennig iawn i mi.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Mae gen i goeden deulu ar y wal, wnaeth Bob Owen Croesor, a oedd yn ffrind i Nhaid. Yn 么l y goeden, 'dan ni'n perthyn i chwaer Owain Glynd诺r - perthynas mae rhywun yn gallu ymfalch茂o ynddi! Felly 'swn i'n hoffi diod efo Owain Glynd诺r. Dim mod i'n licio lot o ddiod wrth gwrs... beth am baned efo fo?!

O Archif Ateb y Galw:

Dywed rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Os dwi'n deud wbath r诺an - fydd pawb yn gwybod bydd?! Fiw i neb chwerthin am fy mhen i!

Nes i fethu fy mhrawf gyrru'r tro cynta'... a'r ail dro... a phasio'r trydydd tro!

Roedd y dyn yn rhoi'r prawf i mi'n Saesneg, a dd'udodd o "will you turn to the right?" - a nes i 'turn to the left'....

Eglurais i 'sa hi'n haws 'sa fo'n rhoi'r cyfarwyddiadau yn Gymraeg, fy iaith gynta'. "Iawn," medda fo.

Felly drion ni eto - ddudodd o "trowch i'r chwith fan hyn"... a 'nes i droi i'r dde...! Hoples! Roedd Gerallt wrth ei fodd efo hynny, achos 'nath o basio'r tro cynta', er ei fod o'n iau na fi!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dwi ddim yn meddwl 'swn i'n gwneud fawr o ddim byd. Dim byd penodol. Jest byw y diwrnod fel pob diwrnod a dyna fo.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eisteddfod 2018 yw un olaf Geraint Llifon fel Archdderwydd

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Pan oedd C么r Godre'r Aran yn cael ei arwain gan Tom Jones Llanuwchllyn, roedd yn arbenigo mewn cerdd dant. Roedd Caru Cymru gan Crwys yn un o'r darnau roedden nhw'n ei ganu.

Mae'n dechrau gyda "Rwy'n caru pob erw o hen Gymru wen"... ac yn gorffen gyda "nid Cymru fydd Cymru a'i choron dan draed." Pan dwi'n ei chlywed, mae'n anfon rhywbeth lawr f'asgwrn cefn i.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

'Sgen i ddim diddordeb mewn bwyd. Os oes rhaglen fwyd ar y teledu, fyddai'n troi i sianel arall.

Mae 'na lot o bethau dwi ddim yn eu licio... er mod i erioed wedi eu trio. Ges i fy sbwylio gan fy mam, yn 么l fy ngwraig!

'Swn i wrth fy modd efo chips, cig moch a beef... dwi ddim yn licio wyau na phethau felly.

Ond mae gen i ddant melys ofnadwy - 'swn i'n byta treiffl trwy'r dydd, bob dydd. Mae gen i wraig sy'n arbenigwraig am wneud treiffl, a dwi wrth fy modd!

Dio'm yn iach iawn ella, ond dwi ddim yn ofnadwy o dew, nacdw...!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

'Sa'n rhaid i mi fynd i'r byd p锚l-droed - at Gareth Bale, bendant. Mae o'n dalent arbennig - yn enwedig y goliau anhygoel 'na sgoriodd yn ddiweddar - sgorio drwy gicio dros ei ben am yn 么l!

'Swn i'n licio cael unai ei droed dde neu ei droed chwith o - dwi'm isho bod yn farus. Meddyliwch be' 'swn i'n gallu ei wneud efo un ohonyn nhw! Coblyn o foi!

Ffynhonnell y llun, Getty Images