Cost twyll yn 拢17m mewn chwe mis yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae twyll wedi cynyddu 21% yng Nghymru yn ystod y tair blynedd ddiwethaf gyda nifer yr achosion yn cyrraedd 11,078 erbyn 2017.
Roedd cyfanswm y gost i ddioddefwyr yn 拢17.1m yn ystod y chwe mis a arweiniodd at fis Mawrth, yn 么l data swyddogol.
Mae data yn dangos bod twyll sy'n gysylltiedig ag elusennau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu'n ddirfawr yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Mae'r heddlu'n annog pobl i amddiffyn eu hunain drwy, er enghraifft, flocio galwadau.
Twyll bancio ar-lein ac ar y ff么n
Mae John Williams, sy'n byw yn Nhrecelyn ger Caerffili, yn dweud iddo gael ei dwyllo gan dwyllwyr "proffesiynol" wedi iddo golli 拢53,000 drwy dwyll ff么n.
Dywedodd Mr Williams, 65, iddo gredu ei fod yn delio 芒 staff ei fanc ei hun ond mewn gwirionedd rhoddodd hawl i droseddwyr fynd i'w gyfrif.
Dywedodd ei fanc, Santander, na fyddent yn gofyn i gwsmeriaid drosglwyddo arian na chynnig gwybodaeth bersonol.
"Dwi fod yn effro i'r pethau yma... ond doeddwn i ddim y noson honno," meddai.
Collodd Mr Williams arian oedd i brynu fflat gwyliau yn Weston-super-Mare gan fod ei wraig Carol yn dioddef o ganser a ddim yn gallu teithio dramor.
Mae John Drake, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, yn dweud bod cynnydd wedi bod mewn pob math o dwyll dros Gymru a bod mwy o bobl yn s么n am droseddau.
Mae'n credu bod technoleg yn rhoi cyfle i droseddwyr ecsbloetio pobl mewn ffyrdd gwahanol ond bod twyll "mewn ffyrdd traddodiadol yn parhau i ddigwydd".
Dywed Action Fraud, sy'n casglu data ar ran plismyn, bod achosion wedi costio 拢17.1m i ddioddefwyr yng Nghymru rhwng Hydref 2017 a Mawrth 2018.
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, twyll yn ymwneud 芒 siopa ac ocsiynau ar-lein sydd wedi bod yn fwyaf cyffredin, gyda 4,599 achos i gyd. Mae hynny'n gynnydd o 7.5%.
Mae'r data'n dangos bod twyll sy'n gysylltiedig ag elusennau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu'n ddirfawr yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Cynnydd mwyaf yn y gogledd
Mae Heddlu De Cymru wedi buddsoddi mewn "swyddogion arbenigol i ddelio 芒 thwyll ariannol" er mwyn canfod pobl fregus allai fod yn ddioddefwyr.
Mae achosion o dwyll yn ardal heddlu'r de wedi cynyddu 26.8% i 4,735 trosedd yn 2017.
Mae'r cynnydd mwyaf wedi bod yn ardal heddlu'r gogledd - i fyny 39% ers 2015 i 2,769 achos, roedd cynnydd ardal Dyfed-Powys yn 7.9% - 1,839 achos.
Doedd fawr o newid yn ardal Heddlu Gwent -gyda chynnydd o 0.75% i 1,735 achos.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney: "Mae'n ffigyrau yn dangos mai dioddefwyr dros 50 sy'n fwyaf tebygol o gael eu targedu ond gall unrhyw un gael ei dwyllo.
"Y peth gorau i wneud i daclo twyll yw gwneud pobl yn fwy ymwybodol ohono."
Sut i aros yn ddiogel
Mae Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig y cynghorion yma:
Byddwch yn ofalus wrth drosglwyddo arian yn electronig i rywun nad ydych yn ei adnabod.
Dyw banciau na'r heddlu byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian i gyfrif arall.
Os ydych ar fin trosglwyddo swm enfawr o arian ystyriwch yn gyntaf ai twyll yw'r cyfan. Os oes gennych unrhyw amheuon peidiwch 芒 throsglwyddo'r arian.
Mae modd i dwyllwr ff么n feddiannu negeseuon testun sy'n ddilys.
Gall twyllwyr ff么n roi'r argraff bod y rhif y maent yn ffonio ohono yn un dilys.
Yn aml mae dioddefwyr bregus yn unig, yn byw ar ben eu hunain ac felly bydd y twyllwr yn cymdeithasu - i'r graddau bod y dioddefwr yn edrych ymlaen i gael cysylltiad 芒'r twyllwr.
Y ff么n yw'r dull mwyaf hwylus i dwyllwr - ystyriwch ddyfeisiadau blocio galwadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2017