Wayne Pivac fydd hyfforddwr rygbi nesaf Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau mai Wayne Pivac fydd hyfforddwr newydd Cymru.

Bydd y rheolwr presennol, Warren Gatland, yn rhoi'r gorau i'r gwaith ar ôl Cwpan y Byd 2019 ar ôl 12 mlynedd wrth y llyw.

Yn wreiddol o Seland Newydd, Wayne Pivac yw rheolwr rhanbarth y Scarlets ar hyn o bryd.

Dyma fyddai'r ail dro i'r gwr 55 oed reoli tîm cenedlaethol, ar ôl hyfforddi tîm Fiji rhwng 2004 a 2007.

Dywedodd ei bod hi'n "fraint ac yn anrhydedd i gael fy ngofyn i fod yn hyfforddwr nesaf Cymru" ac mae'r Scarlets wedi ei longyfarch ar ei benodiad.

Cyfnod o bontio

Mewn cynhadledd i'r wasg fore Llun, dywedodd Martyn Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymri mai hwn oedd pen-llanw dwy flynedd o waith iddo a'r cadeirydd, Gareth Davies.

"Yn Pivac, rydyn ni wedi sicrhau'r dyn gorau ar gyfer y swydd, ac rydyn ni wedi gwneud hyn mewn ffordd pendant fydd o les i bawb sydd ynghlwm â Rygbi Cymru.

"Rwyf yn hynod ddiolchgar i'r Scarlets am eu cefnogaeth drwy gydol y broses hon," meddai Mr Phillips.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Bydd Wayne Pivac yn cychwyn gyda'r undeb ym mis Gorffennaf 2019, ac yn olynu Warren Gatland ar ddiwedd Cwpan y Byd yn Japan.

Mae wedi llofnodi cytundeb pedair blynedd gyda'r undeb.

Dywedodd Martyn Phillips: "Allwn ni ddim gorbwysleisio yr effaith bositif fydd i'w gael o gael amser i gynllunio yn ddigonol ar gyfer y dyfodol.

"Rydyn ni wedi osgoi'r trafod dwl, di-baid all ddod ar ddiwedd blwyddyn Cwpan y Byd [drwy wneud y cyhoeddiad nawr] ac rydyn ni wedi bod yn drwyadl yn sicrhau fod ganddon ni rywun sydd â'r talent, profiad, charisma a'r gallu i sichrau'r gorau i rygbi Cymru."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Wayne Pivac wedi bod gyda'r Scarlets ers 2014

Fe ddechreuodd Wayne Pivac ei yrfa gyda'r Scarlets pan ddaeth yn hyfforddwr cynorthwyol i Simon Easterby ym mis Mai 2014, cyn dod yn hyfforddwr llawn amser ychydig fisoedd yn ddiweddarach pan adawodd Easterby i ymuno â thîm rheoli Iwerddon.

O dan ei arweiniad mae'r Scarlets wedi ennill cynghrair y Pro12 yn 2017, cyn colli i Leinster yn rownd derfynol y tymor diwethaf yn y Pro14.

Fe wnaeth y Scarlets hefyd gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop y tymor diwethaf.

Adeiladu ar y momentwm

Brynhawn dydd Mercher, dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi'r Scarlets, eu bod nhw'n "llongyfarch Wayne ar y penodiad" ac y byddan nhw'n "falch ohono pan fydd e'n cymryd yr awenau gyda'r tîm cenedlaethol".

"Bydd y tymor nesaf yn allweddol i ni... er mwyn ceisio adeiladu ar y momentwm a'r llwyddiant diweddar," meddai.

"Mae cael 12 mis i ddod o hyd i olynydd yn beth anarferol yn y byd chwaraeon proffesiynol, ond o ganlyniad i hyn bydd nawr modd i ni ddilyn ein proses recriwtio manwl er mwyn sicrhau ein bod yn dod o hyd i brif hyfforddwr sydd ag uchelgais i barhau gyda'n strategaeth perfformiad."