74% o ganolfan Yr Egin S4C wedi llenwi 芒 thenantiaid
- Cyhoeddwyd
Mae 74% o ganolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi ei lenwi gyda thenantiaid, yn 么l Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae'r ffigwr yn uwch na'r targed o 60% o ddeiliadaeth gafodd ei osod yn wreiddiol i bencadlys newydd S4C.
Ymhlith y tenantiaid mae Atebol, Big Learning Company, Captain Jac, Asset Finance Solutions, Gorilla, Highly, Lens 360, Moilin, Optimwm a Trywydd.
Yn 么l is-ganghellor y brifysgol mae'n "newyddion gwych" i'r datblygiad.
Y 大象传媒 ddim yn symud
Dywedodd dirprwy is-ganghellor cysylltiol y brifysgol, Gwilym Dyfri Jones, ym mis Rhagfyr 2017 mai gobaith y brifysgol oedd llenwi 60% o'r adeilad gyda thenantiaid addas. erbyn iddi agor.
Bellach, mae'r brifysgol yn dweud eu bod wedi sicrhau mwy o gefnogaeth i bencadlys newydd S4C.
Yn y cyfamser mae'r 大象传媒 wedi cadarnhau na fydd y gorfforaeth yn symud staff o'i swyddfa yng Nghaerfyrddin i'r Egin.
Mewn llythyr i staff dywedodd Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys 大象传媒 Cymru, Si芒n Gwynedd bod y penderfyniad wedi'i wneud oherwydd y "gost sylweddol" o symud.
"Tra bo'r weledigaeth ar gyfer Yr Egin yn un gyffrous, rydyn ni wedi penderfynu bod y gost sylweddol o symud ein swyddfa a'n stiwdios o un safle yn y dref i un arall ddim yn darparu gwerth am arian ar hyn o bryd."
Clwstwr creadigol
Dywedodd yr is-ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, ei fod yn "ddechrau ardderchog i'r datblygiad a fydd yn dod 芒 gwerth economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i Sir Gaerfyrddin a Chymru".
Bydd yr adeilad yn agor ym mis Medi eleni.
Yn ogystal 芒 derbyn 拢3m gan y llywodraeth, mae canolfan Yr Egin hefyd yn un o 11 o brosiectau ar draws y de-orllewin sydd wedi'u hariannu gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Yn 么l y brifysgol, bydd Yr Egin yn hwb i weithgarwch creadigol yn y sir ac yn "sbardun allweddol" ar gyfer ymestyn y diwydiannau creadigol ymhellach draw i ranbarth Dinas Bae Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018