Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwrthod par么l i lofrudd Lynette White ddwywaith
Daeth i'r amlwg fod llofrudd Lynette White yng Nghaerdydd 30 mlynedd yn 么l wedi cael ei wrthod am bar么l ddwywaith.
Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu am y llofruddiaeth yn 2003.
Yn wreiddiol fe gafodd tri dyn arall eu carcharu am y drosedd cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau gan y Llys Ap锚l.
Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leia' 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.
Fe wnaeth gais am bar么l yn Hydref 2015, ac eto ym mis Mawrth eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Par么l wrth 大象传媒 Cymru: "Gallwn gadarnhau na wnaeth panel o'r bwrdd gymeradwyo rhyddhau Mr Jeffrey Gafoor yn dilyn gwrandawiad ym Mawrth 2018.
"O dan y ddeddfwriaeth bresennol, bydd Mr Gafoor yn gymwys am adolygiad pellach ymhen dwy flynedd."
Cafodd ei gais cyntaf am bar么l ei wrthod yn Hydref 2015 mewn 'gwrandawiad ar bapur'.
Wrth ddedfrydu Gafoor yn 2003 dywedodd y barnwr ei fod "wedi caniat谩u i ddynion dieuog fynd i'r carchar" am drosedd yr oedd yn gwybod ei fod yn gyfrifol amdani.
Hanes yr achos
Cafodd Ms White, oedd yn 20 oed, ei thrywanu mwy na 50 o weithiau mewn fflat yn ardal dociau Caerdydd yn 1988.
Aeth pump o ddynion gerbron llys yn 1990 wedi'u cyhuddo o'i lladd.
Cafodd tri ohonyn nhw - Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller - eu carcharu ar gam cyn cael eu rhyddhau ar ap锚l yn 1992.
Yn 2003 fe wnaeth Heddlu De Cymru ddefnyddio technoleg DNA newydd i'w harwain at y llofrudd go iawn.
Plediodd Gafoor yn euog o'i llofruddio mewn ffrae dros 拢30.
Yn gynharach eleni bu galwad am newid y gyfraith fel bod troseddwyr a wnaeth ganiat谩u i bobl ddieuog fynd i'r carchar am eu troseddau nhw gael eu dedfrydu yn llymach.