Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am fwy o orsafoedd ac arhosfannau ar yr A470
Mae galwadau wedi'u gwneud i wella'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau ar y brif ffordd sy'n cysylltu gogledd a de Cymru - yr A470.
Mae corff busnes CBI Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried ariannu rhwydwaith o orsafoedd petrol ac arhosfannau ar hyd y ffordd 186 milltir o hyd.
Yn 么l y CBI, gallai hefyd fod yn gyfle i ateb y galw o ran gosod gorsafoedd gwefru i geir trydan ledled y wlad.
Pryder nifer yw bod y ffordd, sy'n mynd o Landudno i Gaerdydd, yn brin o ran gwasanaethau am rannau helaeth.
Mae Llanelwedd ym Mhowys yn arhosfan boblogaidd ar y ffordd, ond dydy'r rheiny chwaith ddim yn agored 24 awr y dydd.
Mae Lowri Thomas o Lanfairpwll, sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd, yn teithio i'r gogledd ac yn 么l tua dwywaith y mis, ac mae hi'n un o nifer sydd eisiau gweld gwelliannau.
"Unwaith 'da chi'n pasio Llanfair-ym-Muallt, does 'na ddim llawer am weddill y daith," meddai.
"Pethau syml fel stopio i fynd i'r toiled, does 'na ddim llefydd addas.
"Mae 'na rai ar ochr y ffordd, ond dim rhai y byddwn eisiau defnyddio ar fy mhen fy hun wedi iddi dywyllu."
Ychwanegodd Chris Sutton o CBI Cymru y byddai sefydlu rhagor o orsafoedd petrol ac arhosfannau yn gyfle gwych i osod pwyntiau gwefru hefyd.
"Ry'n ni'n gwybod bod diffyg o ran pwyntiau gwefru i geir trydan ledled Cymru," meddai.
"I'r rheiny sydd 芒 cheir trydan, ar hyn o bryd mae'n fater o groesi eich bysedd os fyddwch chi'n gallu cyrraedd pen y daith neu ddod o hyd i rywle i wefru'r car ar y ffordd."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn edrych ar y posibilrwydd o wella'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau ar draws eu rhwydwaith.
Ychwanegodd llefarydd y byddan nhw'n ystyried sefydlu gorsafoedd petrol ac arhosfannau newydd wrth ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd.