Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun dadleuol am fwy o beilonau ar Ynys M么n gam yn nes
Mae cynlluniau i osod rhes newydd o beilonau ar draws Ynys M么n at orsaf b诺er Wylfa Newydd wedi symud gam yn nes.
Mae'r Grid Cenedlaethol wedi gyrru cais cynllunio at yr arolygiaeth gynllunio i drosglwyddo trydan o'r orsaf niwclear i'r tir mawr.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys cyfres o beilonau newydd, fydd yn agos at y rhai presennol, a thwnnel dan Afon Menai.
Daeth cadarnhad yn 2016 na fyddai cynlluniau i gladdu ceblau ar draws yr ynys yn digwydd.
Daw hyn er i Gyngor M么n wrthwynebu'r syniad o osod rhagor o beilonau, gan alw yn hytrach i'w gosod yn danddaearol.
Yn 么l Gareth Williams, sy'n uwch swyddog prosiect gyda'r Grid Cenedlaethol, bydd yr orsaf newydd yn "creu tua 9,000 o swyddi newydd" a bod "trafodaethau gyda thir feddianwyr lleol wedi gwneud gwahaniaeth i'r cynllun terfynol".
Mae'r newidiadau i'r cynlluniau yn dilyn trafodaethau yn cynnwys:
- Penderfynu ar lwybr yng nghanol Ynys M么n gan osgoi opsiynau yn agos at yr arfordir'
- Pennu llwybr i'r peilonau newydd sy'n agos at y rhai presennol, gan gadw'r effaith ar un ardal ac i ffwrdd o drefi a phentrefi mawr;
- Edrych yn ofalus ar sut i fynd ati i weithio ar Afon Menai gan osgoi trefi megis Porthaethwy, Llanfairpwll a'r Felinheli;
- Gwneud cais am ganiat芒d i adeiladu twnnel, fyddai'n gwarchod Ardaloedd o Harddwch Naturiol (AONB) ar Ynys M么n a thirwedd eiconig.
Dywedodd Mr Williams: "Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori. Rydym wedi derbyn dros 5,000 o ymatebion gan aelodau o'r cyhoedd.
"Rydym yn cydnabod nad ydym wedi llwyddo i gyflawni popeth, ond rydym yn credu fod ein hargymhellion yn cynnig y cydbwysedd gorau o ran popeth sydd angen ei ystyried.
"Mae hefyd yn golygu nad oes effeithiau hir dymor yn y rhan fwyaf o ardaloedd M么n a gogledd Gwynedd."
Ond mae dirprwy arweinydd Cyngor M么n, Ieuan Williams, wedi dweud yn y gorffennol bod y cynllun am ragor o beilonau yn "bygwth torri asgwrn cefn economaidd Ynys M么n - twristiaeth".
Mae gan yr arolygiaeth gynllunio 28 diwrnod i benderfynu derbyn neu wrthod cais y Grid Cenedlaethol.
Os bydd yn cael ei dderbyn yna bydd gwrandawiadau cyhoeddus yn digwydd mewn ardaloedd lleol, fydd yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan a rhoi adborth yn syth i'r arolygwyr cynllunio.