Matthew Rhys yn diolch i eisteddfodau am ei lwyddiant

Ffynhonnell y llun, Reuters

Nos Sul, enillodd Matthew Rhys wobr Emmy am yr actor gorau mewn cyfres ddrama am ei rôl yng nghyfres 'The Americans'.

Mae wedi troi at Twitter i ddiolch am bob cefnogaeth ac am yr holl brofiadau gafodd drwy ei fagwraeth Gymreig sydd wedi ei helpu i gyrraedd yr uchelfannau - yn eisteddfodau o bob math, ac hyd yn oed dweud adnodau yn y Capel - gan ddefnyddio'r hashnod #caewchydrysauynycefn.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Mae nifer o'i ffans wedi trydar negeseuon yn dangos eu syndod o glywed ei acen Gymreig wrth iddo ddiolch am y wobr o'r llwyfan yn y seremoni yn Los Angeles.

Doedd nifer ohonyn nhw ddim yn sylweddoli mai Cymro oedd o hyd yn oed, heb sôn am fod yn gallu adrodd adnodau yn Gymraeg!

Nid dyma'r tro cyntaf i rai o'n sêr mwyaf ni ddiolch am eu profiadau o gystadlu mewn eisteddfodau pan oedden nhw'n ifanc.

Mae Bryn Terfel bellach yn ganwr byd-enwog ond mae bob amser yn llafar iawn ynglŷn â dylanwad eisteddfodau a chystadlu arno.

"Dwi wedi cael fy nhrwytho ym maes yr Eisteddfod, dwi wedi 'ym mwydo i fod yn un oedd yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol, a'r ffaith bod mis Awst yn mynd i fod yn rhywbeth oedd yn coroni'r cyfan," meddai.

"Na'i byth anghofio ennill yng Nghaerdydd, pan o'n i'n gwta bymtheg oed, yr unawd cerdd dant, a chyrraedd gartre ar ôl yr wythnos, a'r holl lythyrau a chardiau yn dweud llongyfarchiadau.

"Ac mae'n bwysig bod y llwyfan yma - bod yr ifanc yna yn cystadlu, a bod ni fel cenedl yn ei mwynhau hi."

Eleni, perfformiodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mewn cyngerdd oedd yn coffáu perthynas y canwr Paul Robeson â Chymru. Dywedodd ei fod yn falch iawn o allu canu yn yr Eisteddfod unwaith yn rhagor.

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Bryn Terfel Wobr Osborne Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog yn 1987

Mae seren y West End, Connie Fisher, wedi diolch i'r profiadau gafodd hi wrth gystadlu gyda'r Urdd. Dywedodd fod ei dyled yn fawr i'r Urdd am ei hannog i berfformio a hefyd i siarad Cymraeg gan nad yw ei rhieni'n siarad gair o'r iaith. Dywedodd hefyd ei bod yn gobeithio bod ei thaith hi yn ysbrydoliaeth i gystadleuwyr ifanc yr eisteddfod.

"Rwyf yn gwerthfawrogi pob cyfle ges i gystadlu yn yr Urdd ac fe helpodd y profiadau hyn i mi ddatblygu fel perfformwraig," meddai.

Wrth siarad fel Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, dywedodd Garry Monk ar Pobol y Cwm, Richard Lynch, fod cystadlu wedi bod o fudd iddo yn ei fywyd proffesiynol:

"Mae budd yn dod o unrhyw gyfle pan yn ifanc i sefyll o flaen cynulleidfa a pherfformio, dysgu peth yw'r broses o wneud hynny a sut i ffocysu a delio gyda'r pwysau. Hefyd, dysgu sut i wneud hyn dro ar ôl tro. Ddysges i lot fawr o gael bod o flaen cynulleidfa fyw o oedran ifanc."

Ac wrth gwrs, beth am esgus arall i wylio'r fideo gwych yma o gyfaill Matthew Rhys, y seren actio arall o Gaerdydd, Ioan Gruffudd, yn dangos ei sgiliau canu alaw werin yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau yn 1994. Mae'n siŵr fod y profiad yma wedi ei baratoi ar gyfer ei yrfa lwyddiannus yn Hollywood!

Disgrifiad o'r fideo, Ioan Gruffudd, Eisteddfod Castell Nedd 1994