Blaenau Ffestiniog yn gobeithio elwa o statws awyr dywyll

Disgrifiad o'r llun, Mae gwaith celf i'w weld ar waliau rhai o fusnesau'r ardal, er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o statws awyr dywyll Eryri
  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae trigolion Blaenau Ffestiniog yn gobeithio bydd statws awyr dywyll yn Eryri yn denu mwy o dwristiaid ac yn hwb i'r economi leol.

Dim ond 11 lleoliad ar draws y byd sydd wedi derbyn statws awyr dywyll.

Dros y flwyddyn ddiwetha' mae plant yr ardal wedi bod yn gweithio gyda'r artistiaid Rachel Rosen ac Andy Birch ar weithiau celf i gynrychioli pob rhan o Gysawd yr Haul, y s锚r a'r planedau.

Yn 么l un o'r trefnwyr, Zoe Pritchard mae busnesau yn gallu cymryd mantais o'r cynllun ac mae'n denu mwy o ymwelwyr i'r ardal ac yn denu pobl o du allan i'r tymor twristiaeth arferol.

'Codi ymwybyddiaeth'

Mae dau leoliad statws awyr dywyll yng Nghymru. Mae Bannau Brycheiniog eisoes wedi derbyn y statws yn 2013, ac fe dderbyniodd Eryri'r gydnabyddiaeth yn 2015.

Mae'r statws yn golygu fod y lleoliad yn swyddogol yn un o'r llefydd gorau yn y byd i weld s锚r.

Disgrifiad o'r llun, Mae ffeithiau am y gofod i'w gweld ar hyd a lled Blaenau Ffestiniog

Mae'r gwaith celf ym Mlaenau Ffestiniog wedi'u gosod ym musnesau'r ardal ac yn rhan hefyd o 'Lwybr Cysawd Eryri'.

Un o'r ysgolion fu'n rhan o'r prosiect ydy Ysgol Maenofferen yn y dref, ac yn 么l y Pennaeth Aled Williams roedd yn gyfle arbennig i'r disgyblion godi ymwybyddiaeth o'r statws awyr dywyll.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fod y plant yn ymwybodol o'r statws ac yn yr ardal leol hefyd, ac mi wnaeth y plant fwynhau'r cyfle o fod yn rhan o'r prosiect ac am gael lledaenu'r neges drwy gyfrwng celf hefyd," meddai.

'Lot o gyffro'

Un o'r busnesau sy'n cymryd rhan yn y prosiect yw caffi Kiki.

Dywedodd y perchennog Kiki Rees Stavros fod yr ymateb lleol wedi bod yn "gr锚t" a bod yna "lot o gyffro" yn yr ardal.

Ychwanegodd: "Mae'n dod 芒 phobl i mewn ac maen nhw'n dysgu mwy am y cynllun. Mae'n gyfle i bobl fod yn falch o'r statws yma sydd ddim mewn lot o lefydd yn y byd, felly mae'n beth da iawn."