Cyhoeddi mwy o fanylion am Eisteddfod yr Urdd 2019

Wrth gyhoeddi rhagor o fanylion am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 dywed y trefnwyr y bydd ffensys yn cael eu codi o amgylch y maes a bydd y mynedfeydd yn cael eu staffio a'u rheoli.

Ddiwedd fis Tachwedd fe gyhoeddodd yr Urdd y byddan nhw yn dilyn patrwm yr Eisteddfod Genedlaethol drwy gynnig mynediad am ddim i faes y brifwyl ym Mae Caerdydd.

Dyma'r tro cyntaf erioed y bydd mynediad am ddim i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, gyda'r maes wedi ei leoli o amgylch Roald Dahl Plass.

Bydd angen i bob oedolyn brynu band braich er mwyn cael mynediad i holl ragbrofion a Phafiliwn yr Eisteddfod ond fe fydd mynediad i gystadleuwyr am ddim.

Bydd y bandiau yn mynd ar werth yn y flwyddyn newydd.

Fydd yna ddim cyfyngiad ar niferoedd gwerthiant y bandiau braich a bydd mynediad i bob lleoliad ar sail bod lle - yn unol 芒 threfn pob Eisteddfod yr Urdd arall.

Disgrifiad o'r llun, Yn wahanol i'r Eisteddfod Genedlaethol bydd y mynedfeydd yn cael eu staffio a bydd ffensys

Dywed y trefnwyr bod natur unigryw Eisteddfod yr Urdd a'r niferoedd uchel o blant sy'n mynychu yn galw am ffensys i gael eu codi o amgylch y maes a bydd y mynedfeydd yn cael eu staffio a'u rheoli.

Mae hyn yn wahanol i drefniant agored yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn yr un lleoliad yn gynharach eleni.

Bydd y drefn newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2019 yn golygu:

  • Mynediad am ddim i faes yr Eisteddfod i bawb;
  • Mynediad am ddim i leoliadau cystadlu a pherfformio i'r holl gystadleuwyr o bob oed a phlant o dan 18 oed;
  • Bandiau braich dyddiol ar werth sy'n caniat谩u mynediad i oedolion i'r rhagbrofion a'r Pafiliwn i wylio'r cystadlu;
  • Bydd angen i bawb prynu tocynnau ar gyfer y sioeau a chyngherddau nos.

Bydd yr holl docynnau a bandiau braich yn mynd ar werth ar 1 Chwefror 2019.

Gan ymateb i'r pryderon bydd Eisteddfod yr Urdd yn wynebu'r un colled ariannol 芒 Eisteddfod Genedlaethol y bae, dywedodd Aled Si么n, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd bod "natur y ddwy Eisteddfod yn hollol wahanol".

Ar raglen y Post Cyntaf fore Llun, dywedodd: "Mae natur ein cwsmeriaid ni yn hollol wahanol i'r Eisteddfod Genedlaethol, sydd yn mynd oherwydd y maes, yn hytrach - nid fod cystadlu ddim yn bwysig yn y Genedlaethol - ond yn sicr mae pobl yn mynd am resymau eraill.

"Mae cystadlu yn allweddol ac yn hollbwysig [i'r Urdd], a dyna sy'n denu pobl. Ac wrth gwrs, fydd 'na d芒l i fynd i mewn i'r rhagbrofion a'r cystadlu yn y pafiliwn, felly rydym yn rhagweld yn amlwg na fyddwn yn colli incwm sylweddol oherwydd hyn."

Ychwanegodd: "Dy'n ni ddim yn cynllunio, dyw'r Urdd erioed wedi cynllunio gwneud colled mewn unrhyw steddfod.

"Mae'n wahanol yn y bae. Does dim rhaid i ni godi pafiliwn, does dim rhaid i ni godi lot o strwythurau, does dim tracfyrddau gyda ni, felly mae'n swings and roundabouts, fel maen nhw'n gweud, gyda'r gyllideb.

"Yn sicr, dy'n ni ddim yn cynllunio i wneud colled."

Denu ymwelwyr newydd

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Rydyn ni'n hynod falch o allu cynnig mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019.

"Mae'r Urdd yn ymhyfrydu ein bod yn sefydliad cynhwysol ac agored i blant a phobol ifanc o bob cefndir a'r gobaith yw y bydd cynnig maes di-d芒l yng nghanol prifddinas Cymru yn denu ymwelwyr na fyddai o bosib yn ymweld ag eisteddfod neu ddod i gysylltiad 芒'r Urdd yn arferol.

"Mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad perffaith i arddangos hwyl a bwrlwm yr iaith ynghyd ag ystod gweithgareddau'r Urdd."