Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi tîm hyfforddi newydd tîm rygbi Cymru
Mae prif hyfforddwr nesaf tîm rygbi Cymru, Wayne Pivac, wedi cyhoeddi gweddill ei dîm hyfforddi.
Cafodd Pivac, sy'n hyfforddi'r Scarlets ar hyn o bryd, ei enwi fel olynydd Warren Gatland ym mis Gorffennaf.
Bydd dau Gymro yn ymuno ag ef, gyda Stephen Jones yn cael ei benodi fel hyfforddwr yr ymosod a chyn-gapten Cymru, Jonathan Humphreys, fel hyfforddwr y blaenwyr.
Fe gadarnhaodd Gatland ym mis Tachwedd ei fod yn bwriadu gadael ei rôl fel prif hyfforddwr yn dilyn Cwpan y Byd 2019.
Mae Shaun Edwards eisoes wedi ei benodi fel prif hyfforddwr nesaf y tîm rygbi'r gynghrair, Wigan Warriors, tra bod disgwyl i Rob Howley a Robin McBryde ymuno â Gatland yn ei swydd nesaf. Does dim cadarnhad pwy fydd yn cymryd lle Shaun Edwards hyd yma.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Bydd Neil Jenkins yn parhau yn ei rôl fel hyfforddwr sgiliau gan ei fod wedi arwyddo cytundeb parhaol gydag Undeb Rygbi Cymru.
Mae gan Jones gytundeb gyda'r Scarlets tan ddiwedd tymor 2019-20, ac nid oes sicrwydd eto os fydd rhaid talu rhywfaint o iawndal i'r rhanbarth.
Cafodd Brad Mooar ei gadarnhau fel olynydd Wayne Pivac fel prif hyfforddwr y Scarlets ar ddechrau'r mis.