Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lluniau: Bywyd mewn banc bwyd dros y Nadolig
Fel y stryd fawr, mae banciau bwyd yn prysuro dros y Nadolig gyda rhai unigolion a theuluoedd yn dibynnu arnynt.
Mae banc bwyd Caerfyrddin wedi cynnig bwyd a chefnogaeth i bobl leol ers 2011 ac yn cael ei redeg gan Eglwys Gymunedol Tywi. Nadolig yw un o'r cyfnodau mwya' prysur yno, gyda'r tywydd oer a chostau'r 糯yl yn rhoi pwysau ychwanegol ar bobl mewn argyfwng.
Yn 么l Bronwen, un o'r gwirfoddolwyr: "Mae pobl Caerfyrddin wedi bod yn dod trwy'r dydd ers tair wythnos i gyfrannu bwyd a phob math o bethau Nadoligaidd, yn gwybod fod eisiau rhyw treat bach arno ni i gyd."
Buodd Cymru Fyw yno i weld prysurdeb y banc bwyd cyn y Nadolig.
Lluniau: Aled Llywelyn
Cyfarfod a gweddi i'r gwirfoddolwyr cyn i waith y dydd gychwyn.
Mae'r banc bwyd yng Nghaerfyrddin yn rhan o rwydwaith y Trussell Trust.
Ym mis Rhagfyr 2017, rhoddodd banciau bwyd y Trussell Trust dros 150,000 o becynnau bwyd i bobl mewn angen.
Mae'r gwirfoddolwyr yn labelu'r bwyd gyda dyddiadau defnyddio.
Storio'r bwyd yn 么l dyddiad er mwyn sicrhau fod y bwyd yn y pecynnau yn iawn i'w bwyta.
Y flaenoriaeth yw bwyd ond mae angen pethau fel sebon, shamp诺 a nwyddau hylendid merched hefyd. Mae un dyn busnes lleol wedi cyfrannu dros 2,000 o roliau papur t欧 bach.
Siwmperi plant er mwyn eu cadw'n gynnes.
Anrhegion Nadolig i blant ar gyfer teuluoedd sy'n methu fforddio costau'r 糯yl.
Siocledi i'w rhoi yn y pecynnau bwyd Nadolig.
Mae pob pecyn bwyd wedi ei gynllunio gan ddeietegydd i fod yn faethlon.
Mae 'na 30 o wirfoddolwyr yn helpu yno.
Hetiau a hwyl y Nadolig - cyfle i fwynhau dished a siocled ar 么l i waith y dydd i ddod i ben.
Efallai o ddiddordeb: