Tafarn y Gl么b: Lluniau chwarter canrif

Fis Awst 2019, mae Gerallt Williams yn nodi chwarter canrif ers dod yn landlord tafarn eiconig y Gl么b ym Mangor a thros y 25 mlynedd hwnnw mae wedi cadw cofnod o gymeriadau a golygfeydd y dafarn gyda'i gamera.

"Dwi eisiau atgoffa pobl o'r hyn sydd i'w gael mewn tafarn fach a dweud 'dan ni'n dal yma' - achos unwaith rydyn ni wedi mynd, yna dyna ni," meddai Gerallt.

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Cwsmeriaid selog y Gl么b yn y nawdegau pan oedd pobl yn cael smocio mewn tafarn - mae'r gwaharddiad yn rhywbeth arall sy'n cadw'r to h欧n draw, meddai Gerallt

Mae ganddo filoedd o luniau wedi eu storio mewn bocsys ac mae nifer yn gweld golau dydd am y tro cyntaf wrth iddo fynd ati i'w cyhoeddi bob yn dipyn ar yn ystod 2019.

Mae wedi rhannu rhai ohonyn nhw gyda Cymru Fyw. Ydych chi'n adnabod unrhyw un?

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Ymhlith y criw yma mae Carwyn Jones, (Y Dyn Gwyllt ar S4C) a'r cynhyrchydd a chyflwynydd radio Dyl Mei

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Yr Elin Fflur ifanc yn ymweld

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Gl么b wedi bod yn gartref i sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr Prifysgol Bangor a Choleg y Normal. Dyma griw carioci: "Dwi'n cofio mai Angels gan Robbie Williams roedden nhw'n ei ganu," meddai Gerallt

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Beirdd a chantorion. Noson lansio un o lyfrau'r diweddar Iwan Llwyd (ar y chwith)

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Daeth t卯m p锚l-droed Bangor 芒 Chwpan Cymru i'r Gl么b ar 么l ei hennill yn 2000

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, T卯m y Gl么b yn dathlu ennill Cwpan y Gynghrair Sul ar Ffordd Farrar, Bangor (Gerallt yw'r trydydd o'r chwith yn y rhes flaen)

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Un o nifer o gigs Meic Stevens yn y dafarn

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, T卯m rygbi Bangor mewn gwisg ffansi ar ddiwedd tymor yn 2013

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, "Bryniau" yw disgrifiad Gerallt o'r llun yma o Bryn Terfel a Bryn F么n wedi galw mewn ar 么l recordio rhaglen radio gyda'i gilydd

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Rhai o fyfyrwyr Bangor yn 2015

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Criw yn chwarae 'golff tafarndai' yn 2015 - Y Gl么b oedd un o'r 'tyllau' ar y daith

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Yn y ffr芒m yn 2016

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Criw ar benwythnos 'stag' o Loegr - mae enw'r ardal fel lle ar gyfer gweithgareddau awyr agored yn denu mwy a mwy o bart茂on stag

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Noson meic agored gyntaf y Gl么b

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Morio canu gyda Gethin Griffiths ar y git芒r

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Meic Stevens yn galw heibio am lasied o win cyn perfformio yn Eisteddfod M么n 2017

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Y Welsh Whisperer yn cadw traddodiad gigs bach y dafarn yn fyw yn 2018

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams

Disgrifiad o'r llun, Noson godi arian gan d卯m rygbi'r brifysgol sy'n cael ei noddi gan dafarn y Gl么b

Mae'r newidiadau enfawr ym myd tafarndai bach, gyda llai yn dod drwy'r drws a landlordiaid yn gorfod gweithio'n llawer caletach i ddenu cwsmeriaid, yn un o'r rhesymau pam fod Gerallt eisiau dangos y lluniau.

"Mae pethau wedi newid yn fawr ers imi ddechrau yn 1994," meddai.

"Mae llai yn dod i'r dafarn y dyddiau yma a llai o'r hen gymeriadau rownd y bar - ers talwm mi fyddwn i'n agor y drws am 11am ac mi fydden nhw yno'n disgwyl. Heddiw, does dim pwynt imi agor tan 3pm."

Costau uwch, patrymau cymdeithasu gwahanol a llai o bobl, ar wah芒n i fyfyrwyr, yn byw ym Mangor Ucha' yw rhai o'r rhesymau, meddai Gerallt.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Gerallt tu 么l i'r bar yn 2018. "Fama 'di'r lle" fel y canodd Maharishi am y dafarn.

"Hefyd, mae 'na Weatherspoons yn y dre sy'n cynnig cwrw yn rhad ac mae hynny wedi arwain at gau'r tafarnau bach."

Mae'r ystafell dywyll lle roedd Gerallt yn datblygu ei luniau yn dal yn yr atig a phopeth yn dal ynddi yn union fel wnaeth ei gadael hi 10 mlynedd yn 么l pan ddaeth ffonau symudol i mewn.

"Dwi'n falch mod i wedi cadw cofnod dros y blynyddoedd," meddai Gerallt, sydd yn gweithio fel ffotograffydd priodasau hefyd pan mae galw, ac amser yn caniat谩u.

Hefyd o ddiddordeb: