Pen-blwydd yn 80: Oriel o atgofion Beti George

Ar achlysur ei phen-blwydd yn 80, bu'r ddarlledwraig Beti George yn hel atgofion gyda Cymru Fyw yngl欧n 芒 rhai o luniau mwya' arwyddocaol ei bywyd a'i gyrfa.

Beti y gyflwynwraig

Ro'n i'n cyflwyno Newyddion a rhaglenni cerdd ac roedd rhaid gwisgo lan i wneud y rhaglenni cerdd.

'Dw i'n credu mod i'n dal y record o gael y sac ddwywaith gan y 大象传媒 o Newyddion.

Gadawodd Huw Edwards yr un pryd y tro cyntaf, tua 1989. Pedair mlynedd ar 么l hynny o'n i n么l yn cyflwyno Newyddion achos roedd 'na regime newydd. Fe wnes i fwynhau ond daeth newid eto i'r t卯m rheoli a ges i'r sac am yr ail waith tua 1996.

Dw i wedi twrio yn y bocs atgofion a dod o hyd i'r llythyr yn rhoi'r rhesymau pam, sef bod fi'n 'oeraidd', yn 'anghynnes' ac 'ymhell oddi wrth y bobl' a hefyd mod i'n holi'n ansensitif. Dyna'r geiriau - oedd rhaid i fi chwerthin yn darllen nhw.

Falle mai oherwydd fy oedran i oedd e. Dw i'n cofio un cynhyrchydd yn dweud wrtha'i, "os byddet ti'n lliwio dy wallt yn blonde, byddet ti'n cael mwy o waith." Diolch byth bod pethe 'di newid!

Y siwt wen yma - do'n i ddim yn licio gwisgo gwyn rhyw lawer. A'r gwallt - o'n i'n cael perms y dyddie hynny ac mae hwnna'n edrych yn eitha neis. Falle ga'i perm eto...

Beti a Max Boyce

Dyma fi a Max Boyce yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1974. Mae Max ar ddechrau ei yrfa, yn chwarae rhan Americanwr oedd wedi dod i'r Eisteddfod. O, gathon ni hwyl ond y peth dw i'n cofio am yr Eisteddfod yw'r mwd.

Dw i'n cofio'r gyngerdd ar y noson gyntaf ac roedd Delme Bryn Jones yn canu a daeth e i'r stiwdio yn ei wellingtons ac 'oedd y mwd yn dod lan bron i dop ei f诺ts. Dyma'r Eisteddfod gyntaf i fi wneud fel gohebydd teledu i'r 大象传媒.

Cyflwyno'r Newyddion, gyda Gwyn Llewelyn

Dyma ni yn stiwdio C yn y 大象传媒, tua 1975. A dyma ddechrau'r yrfa cyflwyno teledu - rhaglenni Heddiw a Newyddion. O'n i wrth fy modd yn cyflwyno gyda Gwyn a'r diweddar Emyr Daniel. O'n i'n cael 拢8 am gyflwyno un rhaglen ac oedd Emyr yn cael rhyw 拢30 y rhaglen.

Wrth gwrs o'n i ddim yn cael cyffwrdd gyda stor茂au caled, gwleidyddol - doedd menyw 'ddim yn deall gwleidyddiaeth' yr adeg honno. Un diwrnod gofynnais am godiad cyflog a dywedodd y fenyw oedd yn gyfrifol, "Allwch chi gael 拢10 achos mae 'na giw o fenywod mas fan 'na fydde wrth eu boddau yn cael eich job chi."

Ond un diwrnod collodd Emyr ei lais. Roedd R Alun Evans, oedd hefyd yn cyflwyno, yn sylwebu ar g锚m b锚l-droed a'r unig berson oedd ar 么l oedd fi. Dywedais i, "mi wnaf e ar yr amod bod chi'n talu fi beth 'y chi'n talu Emyr Daniel i wneud" ac mi ges i 拢30 am y diwrnod hwnnw a wedyn mynd n么l i 拢10.

Beti a'r criw yn Eisteddfod yr Urdd, Pontypridd, 1973

Beti a'i chydweithwyr, yn cynnwys Hywel Gwynfryn, R Alun Ifans, Trevor Fishlock a Gareth Lloyd Williams.

Mae'r gwenu yn y llun yn dweud y cyfan - roedd y gwaith yn sbort. Mae'r sbort wedi mynd mas i raddau helaeth. O'n ni yn cael hwyl ac yn trafod tan oriau m芒n y bore. Yr adeg honno o'n i'n nerfus iawn achos mai dyma'r Eisteddfod gyntaf i fi weithio ynddi.

Ffynhonnell y llun, Alamy

Aelod o'r Orsedd

Eisteddfod Abergwaun 1986 gyda'r Archdderwydd WJ Gruffydd. Eisteddfod y mwd oedd hi ac oedd y seremoni yn cael ei chynnal yn un o'r neuaddau yn Abergwaun.

Dw i'n cofio'r llythyr yn dweud mod i wedi fy enwebu i'r Orsedd yn cyrraedd ystafell newyddion y 大象传媒. O'n i'n meddwl bod rhywun yn tynnu 'nghoes i a dyma fi'n darllen e mas yn uchel, wedyn cyrraedd diwedd y llythyr oedd yn dweud 'cadwch hwn yn gyfrinach.' O'n i'n meddwl taw j么c oedd e ond oedd e go iawn.

'Sgidie lwcus

O'n i'n cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth ar S4C ac mi gwrddais 芒 rhai o fawrion y byd cerdd. Un o'r cantorion ddaeth i 糯yl y Faenol un blwyddyn oedd un o'r sopranos gorau yn y byd, Angela Gheorghiu.

O'dd ganddi enw am fod yn diva a dw i'n cofio rhywun yn dweud wrtha'i cyn y cyfweliad, "gewch chi ddim byd mas ohoni". O'dd hi'n cael colur yn ei charaf谩n ac edrychodd hi ar fy esgidiau i a dweud "Ohhh those are my favourite shoes, I always buy those Rucoline shoes. And I have this huge R and I love it because of my lovely Roberto." O'dd hi'n briod 芒 un o denoriaid gorau'r byd, Roberto Alagna. Dim problem i gael sgwrs... o'dd hi wrth ei bodd yn siarad 'da fi!

Yng nghanol yr i芒

Dyma fi gyda'r delynores Manon Morris. Ges i brofiadau gwych yn mynd dros y byd yn ffilmio'r gyfres Beti a'r Gerddorfa. Cafodd rhywun y syniad yma o fynd 芒 thelynores i'r gwesty i芒 'ma yng ngogledd Sweden. Roedd y tymheredd tu fas yn -40 a thu fewn roedd y cyfan yn i芒.

Roedd Manon yn eistedd ar gadair o i芒. O'n ni'n yfed diodydd o wydr i芒 felly o'dd rhaid gwisgo menig. Dyma fi mewn siwt aur - typical ohona i! Druan 芒 Manon, mae hi'n gorfod chwarae'r delyn yn hyn i gyd. Pum munud ac o'dd ei dwylo hi wedi rhewi ac wedyn roedd angen hairdryer i dwymo'i dwylo hi. Ew, oedd e'n brofiad ond druan 芒 Manon.

Beti a'i brawd

Doedd dim lot o lunie i gael yr adeg honno ond dyma fi a 'mrawd Wyn yn yr ardd ym mhentref Coed y Bryn, sy'n enwog am fod T Llew Jones wedi bod yn brifathro yno. O'dd Wyn a fi fel ci a chath, i weud y gwir.

Ffynhonnell y llun, Alamy

Iestyn a'r ci Modlen

Mae fy mab Iestyn tua pedair yn y llun - ffrindie mawr gyda'r ci. Ry'n ni'n ffrindie mawr - cerddoriaeth yw ei fryd e hefyd. Mae e'n darlithio newyddiaduraeth yn y brifysgol yn Brighton.

Ffynhonnell y llun, Alamy

Dianc

Dyma fi'n ymlacio ar yr ynys baradwysaidd Samos. Atgofion hyfryd o'r ynys - o'n ni'n mynd yna bob blwyddyn achos o'dd gyrfa fi a David yn golygu ein bod yn teithio llawer felly o'dd hi'n braf cyrraedd yma ac ymlacio. Ail gartef i fi...

David Parry-Jones: 'Y dyn cwympais i mewn cariad ag e'

Ar 么l cwrdd mewn isetholiad ym Merthyr tua 1973, deuthon ni at ein gilydd yn 1975 a bod gyda'n gilydd am dros 42 o flynyddoedd. Dyddiau hapus.

糯yr ac wyres

Fin a Manon - maen nhw'n byw yn Brighton 芒 Manon yn gwneud tecstiliau yn y coleg a Fin mewn ysgol gerdd.

Efallai o ddiddordeb