Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Betty Campbell yn ennill pleidlais Merched Mawreddog
Prifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, yw enillydd pleidlais Merched Mawreddog, sy'n golygu y bydd cerflun cyhoeddus ohoni yn cael ei godi yng Nghaerdydd.
Dyma fydd y cerflun cyntaf o fenyw benodol mewn lle cyhoeddus yn yr awyr agored yng Nghymru, a bydd yn cael ei godi yn y sgw芒r sy'n rhan o ddatblygiad y Sgw芒r Canolog.
Cafwyd miloedd o bleidleisiau gan y cyhoedd, ac fe gafodd y canlyniad ei gyhoeddi ar 大象传媒 Wales Today nos Wener.
Y pedair arall ar y rhestr fer oedd Elizabeth Andrews, Cranogwen, Elaine Morgan ac Arglwyddes Rhondda.
Yn ferch o ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd, dywedodd athrawes wrth Betty Campbell na allai merch ddu o ddosbarth gweithiol fyth freuddwydio am gyrraedd uchelfannau academaidd.
Ond profodd y rhai oedd yn amau ei gallu yn anghywir mewn ffordd gwbl ysbrydoledig.
Hi oedd y ferch gyntaf yng Nghymru heb fod yn wyn ei chroen i fod yn bennaeth ysgol a hyrwyddodd dreftadaeth amlddiwylliannol ei chenedl drwy gydol ei hoes.
Daeth ei hysgol yn dempled ledled y DU ar gyfer arfer da mewn addysg amlddiwylliannol ac fe aeth Betty ati i helpu sefydlu Mis Hanes Pobl Dduon, cyn parhau i ddylanwadu ar fywyd yng Nghymru drwy gyfres o benodiadau cyhoeddus.
Roedd y merched ar y rhestr yn cynrychioli ac yn cyfleu llwyddiannau, doniau a chyflawniadau merched yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Roedd y panel yn ystyried bod y pum menyw ar y rhestr fer yn enghreifftiau gwych o ddylanwad a chyfraniad menywod o Gymru mewn nifer o feysydd.
Dathlu 'cyfraniad cyfoethog'
Dywedodd Helen Molyneux o'r gr诺p Monumental Welsh Women, sy'n arwain yr ymgyrch i godi'r cerflun: "Rydyn ni'n falch iawn fod cynifer o bobl wedi cymryd rhan yn y bleidlais a'i bod wedi ennyn cymaint o ddiddordeb.
"Byddwn ni'n mynd ati i gomisiynu artist i ddylunio a chreu'r cerflun, ac edrychwn ymlaen at ei ddadorchuddio yn 2020.
"Byddwn ni hefyd yn herio trefi a dinasoedd eraill yng Nghymru i ddilyn esiampl Caerdydd ac anrhydeddu eu merched mawreddog nhw."
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru: "'Dan ni wrth ein bodd efo'r ymateb gwych i'r gyfres Merched Mawreddog.
"Mae'r prosiect cyfan wedi bod yn gyfle unigryw i ddathlu bywyd pum Cymraes eithriadol - a'u cyfraniad cyfoethog i'r byd."