Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Darganfod siarc prin, y Maelgi, oddi ar arfordir Cymru
Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i dystiolaeth fod un o'r mathau mwyaf prin o siarc yn byw oddi ar arfordir Cymru.
Yn 么l rhai llongau pysgota mae rhywogaeth y Maelgi (Angel Shark) i'w weld yn y moroedd, er bod dim prawf o le yn union maen nhw'n byw.
Roedd y Maelgi yn gyffredin ar draws Ewrop ar un adeg, ond mae bellach ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o greaduriaid sydd mewn perygl difrifol.
Hyd yma, yr unig dystiolaeth gadarn o gynefin yr anifail yw oddi ar Ynysoedd Canar茂a - mewn ffilm ohonyn nhw yn bwydo ar wely'r m么r.
Fe all tystiolaeth o bresenoldeb y pysgodyn olygu fod Cymru yn gynefin pwysig i'r siarc prin.
"Pe bai ni'n colli'r Maelgi, byddwn yn colli llinell bwysig o ran hanes esblygiad - hanes nad sy'n bosib ei gael gan fathau o siarcod eraill," meddai Joanna Barker, o Gymdeithas S诺olegol Llundain.
Mae Ms Barker yn dweud fod tystiolaeth ysgrifenedig yn bodoli o bresenoldeb y siarc yn y dyfroedd o amgylch Cymru 100 o flynyddoedd yn 么l.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth mae hi wedi dechrau prosiect ar y cyd gyda
Y Maelgi
- Maen nhw'n treulio llawer o'u hamser yn hela pysgod ar wely'r m么r;
- Ar un adeg yn gyffredin yn nwyrain M么r Iwerydd a M么r y Canoldir;
- Maen nhw dan fygythiad oherwydd llygredd a llongau pysgota.
Yn dilyn ap锚l am wybodaeth oddi wrth gymunedau morwrol, daeth nifer o luniau diddorol i'r fei.
Mae'n amlwg fod hela a dal y pysgodyn wedi bod yn dipyn o uchafbwynt i bysgotwyr yn y 70au a'r 80au, cyn i'r rhywogaeth gael ei ddynodi yn un prin a'i warchod.
"Yn ddiweddar, mae'r siarc wedi ei weld oddi ar Bae Ceredigion, M么r Hafren ac i'r gogledd o Gaergybi," meddai Ms Barker.
Un o'r cwestiynau mae biolegwyr am ei ateb yw a yw'r rhywogaeth yn symud yn 么l ac ymlaen rhwng Cymru ac Ynysoedd Canar茂a, neu a oes poblogaeth unigryw yng Nghymru?
Dywed gwyddonwyr eu bod yn gobeithio dod o hyd i'r ateb drwy gymryd swabiau DNA o groen yr anifail.
Yn y cyfamser mae nifer o weithdai lleol wedi eu trefnu o amgylch arfordir Cymru i geisio casglu mwy o dystiolaeth, gan gynnwys lluniau ac atgofion gan bysgotwyr.
Fe fydd y gweithdai yn dechrau yn Nefyn, Gwynedd, ar 25 Ionawr, gyda'r sesiynau yn para rhwng 10:00 a 17:00.
25/26 Ionawr - Amgueddfa Forwrol Ll欧n, Nefyn;
11/12 Chwefror - Amgueddfa Treftadaeth Aberdaugleddau;
15/16 Chwefror - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe;
1/2 Mawrth - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth;
4/5 Mawrth - Cad茅ts M么r, Caergybi.