Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
AS Ynys M么n yn beirniadu sylw 'gwladoli' Wylfa Newydd
Mae Aelod Seneddol Ynys M么n wedi beirniadu un o benaethiaid y cwmni y tu 么l i gynllun i adeiladu atomfa newydd gwerth 拢12bn.
Cafodd Cadeirydd Hitachi, Hiroaki Nakanishi, ei ddyfynnu'n dweud mai gwladoli'r fenter yw'r unig ffordd o ailddechrau'r gwaith ar Wylfa Newydd.
Dywedodd AS Llafur Ynys M么n, Albert Owen, nad oedd y sylwadau gafodd eu gwneud mewn fforwm yn Davos ym mis Ionawr yn helpu'r achos.
Cadarnhaodd Hitachi ym mis Ionawr eu bod yn bwriadu atal y gwaith ar adeiladu Wylfa Newydd yn sgil costau adeiladu.
Roedd disgwyl i 9,000 o weithwyr fod yn rhan o'r gwaith adeiladu ar gyfer dau adweithydd niwclear, a oedd i fod dod yn weithredol yn 2020au.
Ymddangosodd Ysgrifennydd Busnes ac Ynni y DU, Greg Clarke, o flaen pwyllgor o ASau ddydd Mercher.
Dywedodd ei fod yn dal yn bosib i weithio tuag at Wylfa "erbyn y 2030au os oes modd cytuno ar fodel ariannu".
'Chwilio am eglurder'
Dywedodd Mr Owen wrth Mr Clarke: "Nid yw'n helpu'r achos pan fo cadeirydd Hitachi yn mynd i Davos, lle dwi'n meddwl bod gwleidyddion a dynion busnes h欧n yn mynd yn fwriadol llai ymwybodol nag arfer, a dweud yn benodol mai, ac yn ei eiriau ef, 'gwladoli yw'r unig lwybr i achub y prosiect niwclear yma'.
"Mae 400 o bobl yn fy etholaeth yn derbyn llythyrau diswyddo.
"Mae'r cwmni yn gwneud datganiad i ddweud ei fod yn atal hyn ac yn cynnig amserlen, ac fel y dywedwch chi, yn chwilio am fodel arall.
"Ond yna mae cadeirydd y cwmni hwnnw yn gwneud y datganiad cyhoeddus hwn."
Dywedodd Mr Owen y byddai'n "chwilio am eglurder" gan Mr Nakanishi.
Dywedodd Mr Clarke wrth ASau nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu gwladoli'r fenter.