大象传媒

Sefyllfa bresennol Ford yn 'bryderus iawn' yn 么l arbenigwr

  • Cyhoeddwyd
Ford Pen-y-bontFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 1,000 o swyddi dan fygythiad yn safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dim ond ychydig gannoedd o swyddi fyddai'n debygol o gael eu creu petai cwmni Ineos yn penderfynu cynhyrchu ceir newydd ar safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn 么l arbenigwr blaenllaw yn y diwydiant ceir.

Mae disgwyl penderfyniad yn fuan o ran os bydd y cwmni yn adeiladu cerbyd 4x4 newydd ar y safle yn ne Cymru neu ym Mhortiwgal.

Ond mae 1,000 o swyddi dan fygythiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn sgil torri 'n么l gan Ford.

Dywedodd David Bailey o Brifysgol Aston y byddai'n croesawu'r gwaith gan Ineos ym Mhen-y-Bont, ond mae ganddo amheuon yngl欧n 芒'r cynllun y mae "rhai yn ei ddisgrifio fel prosiect gwagedd".

Mae ansicrwydd yngl欧n 芒 lefel y cynhyrchu a'r proffidioldeb, ac ni wnaeth y cwmni wnaeth y model yn y gorffennol i Ineos - JLR - lawer o arian o'r model hwnnw.

'Pryderus iawn'

Ychwanegodd fod cynhyrchu ceir trydan yn llawer pwysicach o ran sicrhau dyfodol safle Ford ym Mhen-y-Bont.

Ond byddai hynny'n dibynnu ar sicrhau Brexit gyda'r DU yn parhau yn yr undeb tollau, yn ogystal 芒 pherthynas glos gyda'r farchnad sengl a chefnogaeth y llywodraeth i greu ceir trydan.

Mae'r sefyllfa bresennol yn edrych yn "bryderus iawn" i Ben-y-bont, meddai'r Athro Bailey.

Ychwanegodd y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus i'r diwydiant ceir, fyddai'n golygu cau safleoedd cynhyrchu".

Mae'n credu fod Pen-y-bont, Ellesmere Port - ble mae sawl person o Gymru'n gweithio - a Castle Bromwich yng nghanolbarth Lloegr yn dri safle sydd dan fygythiad os bydd Brexit heb gytundeb.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Er nad oes goblygiadau uniongyrchol i Safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio'n agos 芒 Ford i amddiffyn y cannoedd o swyddi medrus sydd yno, yn ogystal 芒 chwilio am gyfleoedd blaengar newydd ar gyfer y safle.

"Mae ein cefnogaeth i'r safle yn bwysicach fyth yn y cyd-destun yma."