Cymru'n dychwelyd i'r Cae Ras

Ffynhonnell y llun, Stu Forster

Disgrifiad o'r llun, David Cotterill yn chwarae yn y g锚m yn erbyn Norwy ar y Cae Ras ar 6 Chwefror, 2008

Ar nos Fercher, 20 Mawrth bydd p锚l-droed rhyngwladol yn dychwelyd i'r Cae Ras yn Wrecsam wrth i Gymru herio Trinidad a Tobago.

Dyma'r tro cyntaf i Gymru chwarae yno ers y fuddugoliaeth yn erbyn Norwy yn Chwefror 2008.

Ond mae gan y stadiwm, a Wrecsam ei hun, r么l hynod o bwysig i'w chwarae yn hanes p锚l-droed Cymru.

"Cafodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru ei sefydlu yn Wrecsam, felly Wrecsam yw man geni p锚l-droed yng Nghymru," meddai Spencer Harris, un o gyfarwyddwyr Clwb P锚l-droed Wrecsam, wrth Cymru Fyw.

"Chwaraeodd Cymru eu g锚m gartref gyntaf yn Wrecsam yn erbyn yr Alban 1877, a'r Cae Ras yw'r stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd sydd dal yn cael ei ddefnyddio."

Ffynhonnell y llun, Picasa

Disgrifiad o'r llun, Mae Spencer Harris yn un o gyfarwyddwyr Clwb P锚l-droed Wrecsam, ac mae dros 4,000 o gefnogwyr yn rhannol berchen ar y clwb

"Mae'n wych gweld p锚l-droed rhyngwladol yn 么l yn y gogledd, a n么l ar y Cae Ras.

"Mae'n rhaid i ni wneud mwy o hyn yn y dyfodol ond mae yna newidiadau sydd eu hangen ar y Cae Ras i sicrhau bod hyn yn digwydd."

Y tro diwethaf i Gymru chwarae ar y Cae Ras, fe enillodd Cymru 3-0 gyda dwy g么l i Jason Koumas ac un i Carl Fletcher.

G么l 'arbennig' Hughes

"Mae Cymru wedi chwarae 93 o weithiau ar y Cae Ras, sydd yn fwy nag unrhyw stadiwm arall," meddai Mr Harris.

"Dwi'n cofio gweld Cymru'n curo Sbaen 3-0 yma gyda'r g么l arbennig yna gan Mark Hughes.

"Roedd chwaraewyr Cymru eisiau dod i'r Cae Ras oherwydd bod gennym ni record mor dda yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mark Hughes a'i g么l enwog yn erbyn Sbaen ar y Cae Ras ar 30 Ebrill, 1985

Y dorf fwyaf erioed ar y Cae Ras yn 么l y s么n oedd yn y g锚m rhwng Wrecsam a Manchester United yn 1957, pan oedd bron i 35,000 yno.

"Y peth am y Cae Ras ydi ei fod yn strategic asset i Gymru," meddai Spencer Harris.

"Does yna ddim stadiwm i gynnal gemau rhyngwladol yng Nghymru i'r gogledd o'r coridor M4. Dydi hynny ddim yn deg i'r bron miliwn o bobl sy'n byw o Fachynlleth i fyny i Ynys M么n, ac ar draws yr arfordir i Bae Colwyn a Wrecsam."

Mae rhai gwelliannau wedi eu gwneud i'r cyfleusterau yn y Cae Ras eisoes ac mae Llywodraeth Cymru, y Gymdeithas B锚l-droed a Chyngor Wrecsam wedi bod yn trafod ailddatblygu'r stadiwm ers rhai blynyddoedd.

Mae Spencer Harris yn credu ei bod yn bwysig i'r buddsoddiad yma ddigwydd yn y gogledd.

"Fe ddylai'r Llywodraeth helpu'r gogledd i wneud yn si诺r bod y Cae Ras yn strategic asset a buddsoddi yn y stadiwm i sicrhau bod gemau rygbi neu b锚l-droed rhyngwladol yn gallu cael eu cynnal yn y gogledd," meddai.

"Mae hyn yn bwysig er mwyn gwasanaethu Cymru gyfan, yn hytrach na dim ond de Cymru."

Ffynhonnell y llun, David Goddard

Disgrifiad o'r llun, Y Cae Ras o'r awyr, gydag eisteddle Ffordd y Wyddgrug a gafodd ei adeiladu yn 1999

Mae s么n wedi bod yn y gorffennol am sefydlu Amgueddfa Genedlaethol P锚l-droed Cymru yn rhan o gynlluniau i ail-ddatblygu'r Kop yn y Cae Ras.

"Gawn ni weld os ddaw'r amgueddfa genedlaethol b锚l-droed i Wrecsam, efallai daw i'r Cae Ras. Ond os ddaw'r amgueddfa i'r Cae Ras neu ddim, mae yna gyfle bellach gan fod y t卯m rhyngwladol wedi dychwelyd yma," meddai Spencer Harris.

Mwy o gemau yn y gogledd

"Fe allen ni ail-wneud y Cae Ras a gwneud yn si诺r bod gan y stadiwm ddigon o seddi i gynnal gemau o safon. Mae'r niferoedd yma - roedd tocynnau ar gyfer y g锚m yma (Trinidad a Tobago) wedi mynd mewn oriau, a dim ond g锚m gyfeillgar ydy hi.

"Mae 'na fwy o bobl yn byw yn y de, ac mae pawb yn y gogledd yn gwybod hynny. Ond mae yna rai gemau, efallai yn erbyn timau llai, sydd yn bosib eu chwarae yn y gogledd, ac mae'n rhaid gwneud yn si诺r bod gemau rhagbrofol yn dod i bob cwr o Gymru - pam lai? Ond, mae yna bethau ymarferol sydd angen ei gwneud i'r Cae Ras yn gyntaf."

Ffynhonnell y llun, PAUL ELLIS

Disgrifiad o'r llun, Roedd Craig Bellamy ymysg y sgorwyr pan enillodd Cymru 4-0 yn erbyn Liechtenstein ar y Cae Ras ar 14 Tachwedd, 2006

Mae nifer o chwaraewyr ifanc Cymru yn dod o'r gogledd-ddwyrain, fel Tom Lawrence, Harry Wilson a Danny Ward.

"Yndi mae hynny'n bwysig," meddai Spencer Harris, "ond yn bwysicach na hynny yw cefnogwyr y dyfodol.

"Mae 'na gefnogwyr Cymru, plant efallai, sydd erioed wedi gweld Cymru'n chwarae, dim ond ar y teledu.

"Os 'da chi'n deulu o bedwar ac eisiau gyrru lawr i'r de neu mynd ar y tr锚n a phrynu tocynnau i weld g锚m, mae'n rhy ddrud i rhai bobl wneud hynny. Ond os fydd gemau yn cael eu cynnal yn Wrecsam mae'n rhoi cyfle i gefnogwyr y gogledd.

"Dydi hyn ddim i'w wneud 芒 Chlwb P锚l-droed Wrecsam, mae i'w wneud a ph锚l-droed Cymru fel gwlad - mae Wrecsam yn gefnogol o unrhywbeth i b锚l-droed Cymru, ac i bobl y gogledd.

"Mae'r Kop yn eyesore i'r dref i ddweud y gwir, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth amdano er mwyn gwella delwedd Wrecsam gan ei fod ar y brif ffordd i fewn i'r dref.

"Mae'n bwysig i Gymru ein bod yn gallu ail-wneud yr eisteddle hefyd achos os 'nawn ni hynny bydd lot gwell siawns o gynnal mwy o gemau rhyngwladol yno yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Stu Forster

Disgrifiad o'r llun, David Cotterill yn chwarae yn y g锚m yn erbyn Norwy ar y Cae Ras ar 6 Chwefror, 2008

Bydd sylwebaeth fyw o g锚m Cymru yn erbyn Trinidad a Tobago ar 大象传媒 Radio Cymru nos Fercher, rhwng 19:00 a 22:00.

Hefyd o ddiddordeb: