Shaun Edwards ddim am reoli Wigan Warriors y tymor nesaf

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Tra'n chwaraewr fe dreuliodd Edwards 14 mlynedd gyda Wigan, gan ennill pob tlws posib

Mae clwb rygbi Wigan Warriors wedi cadarnhau na fydd hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards yn cael ei benodi fel eu rheolwr ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd Edwards mai "diffyg paratoi" yw'r rheswm na fyddai'n cymryd y r么l.

Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus gyda Chymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fel rhan o d卯m hyfforddi Warren Gatland, mae disgwyl iddo barhau fel hyfforddwr amddiffyn y t卯m rhyngwladol.

"Mae paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd wedi cael eu symud ymlaen ac felly bydd hi'n amhosib i mi fynd i dreulio wyth wythnos yn Awstralia yn canolbwyntio ar rygbi'r gynghrair," meddai.

Nid yw hi'n glir eto os bydd Edwards yn parhau fel rhan o'r t卯m hyfforddi unwaith y bydd olynydd Gatland, Wayne Pivac yn cymryd y llyw wedi Cwpan y Byd 2019.