Robin McBryde i ymuno a th卯m hyfforddi Leinster
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd gyda'r t卯m rygbi cenedlaethol ar ddiwedd 2019.
Fe fydd McBryde yn cymryd swydd fel un o hyfforddwyr t卯m Leinster yn Iwerddon.
Daw'r cyhoeddiad 13 o flynyddoedd ers i'r cyn-fachwr ymuno a th卯m hyfforddi Cymru yn 2006.
Dywedodd McBryde ei fod yn "hynod o falch" o fod wedi cael hyfforddi Cymru.
Ymunodd McBryde fel un o hyfforddwyr Cymru ar 么l ymddeol o chwarae'n broffesiynol yn 2005, ac ers 2008 bu'n rhan o ddim hyfforddi Warren Gatland sydd wedi cipio tair Camp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Eglurodd McBryde ei fod wrth ei fodd cael ymuno 芒 Leinster.
"Maen nhw'n un o'r timau sy'n sefyll allan fwyaf yn Ewrop, gyda hunaniaeth gadarn a hanes balch," meddai.
"Dwi'n edrych ymlaen yn arw i ddechrau gyda nhw yn nes ymlaen eleni."
Ychwanegodd bod ei brofiad fel un o hyfforddwyr Cymru wedi bod yn "hynod o werthfawr".
Bydd McBryde yn gadael ei swydd gyda Chymru ar ddiwedd Cwpan y Byd 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2015