Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Placiau er cof am ymgyrchwyr streic y glowyr
Bydd placiau er cof am ddau o ymgyrchwyr streic y glowyr, wnaeth helpu ysbrydoli ffilm Pride, yn cael eu gosod yn Nyffryn Dulais ddydd Sadwrn.
Roedd Mark Ashton yn ffigwr blaenllaw yng ngr诺p Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr yn ystod y streic yn 1984.
Yr enw arall ar y plac arall yw Hefina Headon - ysgrifennydd Gr诺p Cefnogi'r Glowyr.
Fe fydd y ddau yn cael eu cofio gyda phlaciau ar Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn, Castell-nedd Port Talbot.
Bydd aelodau gr诺p Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr yn mynychu'r seremoni ddydd Sadwrn, sy'n dilyn gorymdaith Pride Abertawe.
Cafodd bywydau Mr Ashton a Ms Headon eu portreadu yn ffilm Pride yn 2014 - ffilm enillodd Bafta am y ffilm gyntaf orau gan ysgrifennwr, gyfarwyddwr neu gynhyrchydd o Brydain.
Fe wnaeth Mr Ashton helpu ffurfio'r gr诺p, wnaeth godi arian i ddarparu bwyd a chefnogaeth i lowyr oedd yn streicio a'u teuluoedd.
Bu farw yn 1987 ag yntau ond yn 26 oed.
Dywedodd ei ffrind, a chyn-AS Dwyrain Abertawe, Si芒n James ei fod yn "gymeriad gr锚t" oedd yn "dod 芒 phobl at ei gilydd".
"Does gen i ddim amheuaeth, pe bai wedi byw yn hirach fe fyddai wedi cyflawni pethau mawr," meddai.
"Fe gymrodd hi rywun dewr iawn fel Mark i ddweud 'mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth'.
"Rydyn ni'n hoffi meddwl y dylai pob person hoyw edrych ar yr ardal yma fel lle yn eu hanes, a bod croeso iddyn nhw yma.
"Roedd ein cymuned ar flaen y gad mewn ffordd. Doedden ni ddim yn meddwl ein bod yn newid hanes. Oll roedden ni'n ei wneud oedd bod yn bobl teidi."
Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn oedd canolbwynt y gymuned yn ystod y streic, a dyma hefyd oedd pencadlys Gr诺p Cefnogi'r Glowyr yn yr ardal.
Cafodd dros 4,000 o bobl eu bwydo yno, a 拢350,000 ei godi yn ystod y streic.
Bu farw Ms Headon, gafodd ei phortreadu gan Imelda Staunton yn y ffilm, yn 2013, cyn iddyn nhw ddechrau ffilmio.
Dywedodd ei merch, Allison Williams ei bod yn falch iawn o gyfraniad ei mam.
"Mae'n emosiynol iawn. Doeddwn i erioed yn disgwyl hyn, oherwydd doedd hi ddim yn gwneud y pethau yma i gael clod neu anrhydedd," meddai.
"Roedd hi wedi ymgolli yn y streic. Ei nod mewn bywyd oedd helpu eraill ac fe wnaeth hi ein magu ni i feddwl fel yna hefyd."
Bydd y placiau'n cael eu dadorchuddio brynhawn Sadwrn.