Cyhoeddi Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd 2019

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi enwau'r pedwar person fydd yn cael eu hanrhydeddu eleni am eu cyfraniad arbennig i'r mudiad.

Mae'r mudiad yn cydnabod cyfraniad y llywyddion anrhydeddus yn Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol.

Yn Eisteddfod Caerdydd a'r Fro eleni, y pedwar sy'n cael eu gwobrwyo ydy Emyr Edwards, Alun Guy, Gaynor Jones a Gwilym Roberts.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, ei bod yn "fraint a phleser" cydnabod ymroddiad y "gwir gymwynaswyr i'r mudiad".

Llywyddion Anrhydeddus 2019:

  • Y cyfarwyddwr a dramodydd Emyr Edwards;
  • Y cerddor ac arweinydd Alun Guy;
  • Un sy'n ymwneud 芒'r mudiad ers degawdau fel nyrs, Gaynor Jones;
  • Ffigwr amlwg gyda'r Urdd yn y brifddinas, Gwilym Roberts.

Bydd y pedwar yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan yr 诺yl ar y聽dydd Llun.

Dywedodd Ms Lewis: "I blant a phobl ifanc Caerdydd a'r Fro a thu hwnt, yn Gymry ac yn ddysgwyr, y pedwar yma fu wynebau'r Urdd i bob pwrpas am ddegawdau.

"Maen nhw yn wir gymwynaswyr i'r mudiad ac mae hi'n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr 诺yl eleni."

Mae Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin.