'Cyfnod o ansicrwydd i weithwyr dur Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru ac unedau gweithwyr wedi dweud fod y cyhoeddiad diweddaraf fod cytundeb rhwng cwmni Tata a Thyssenkrupp o'r Almaen yn "annhebygol" yn achos pryder i gymunedau dur yng Nghymru.
Ddydd Gwener dywedodd penaethiaid cwmni Tata ei bod yn dod yn fwyfwy amlwg na fyddai'r Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi s锚l bendith i gytundeb rhwng y ddau gwmni.
Mae undebau wedi dweud fod y datblygiad diweddaraf yn ailgodi pryderon ac ansicrwydd am y dyfodol.
Mae Tata yn cyflogi 8,385 o weithwyr yn y DU - gyda thua hanner o'r rhain ym Mhort Talbot.
Mae tri chwarter gweithlu Tata hefyd wedi eu lleoli yng Nghymru.
Yn 么l Gweinidog yr Economi, Ken Skates, mae'r newyddion yn "achos pryder i bawb sydd yng nghlwm 芒'r diwydiant".
"Rwyf wedi galw am drafodaethau brys gyda Tata y prynhawn 'ma er mwyn cael gwybod beth mae hyn yn ei olygu i gynlluniau Tata Dur Ewrop a'u safleoedd yng Nghymru.
"Fe fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth posib i amddiffyn y diwydiant cynhyrchu dur a swyddi dur yng Nghymru."
Yn eu tro mae penaethiaid Tata wedi dweud eu bod wedi "ymrwymo i gadw gwaith dur Port Talbot ar agor" er gwaetha'r newyddion nad yw'n debygol fydd y ddau gwmni yn uno.
Yn 么l Roy Rickhus, ysgrifennydd cyffredinol undeb Community, roedd y penderfyniad i beidio uno yn golygu mwy o ansicrwydd i weithwyr dur.
"Mae hyn yn ddatblygiad pwysig sy'n codi gymaint o gwestiynau ag sydd yna o atebion," meddai.
"Mae'n bwysig nad yw Tata yn ymateb yn fyrbwyll i'r datblygiad."
Dywedodd llefarydd ar ran Unison y byddan nhw nawr yn pwyso ar fwrdd Tata i amlinellu eu cynlluniau i'r dyfodol.
Wrth ateb cwestiynau penodol am safle Port Talbot, dywedodd prif weithredwr Tata, T V Narendran: "Rydym eisiau sicrhau eleni fod y safle yn cael ei redeg fel un sy'n gwneud elw.
"Mae yna ychydig o bryder am gost ynni yn y DU. Yn y 18 mis diwethaf mae'r gost wedi cynyddu'n sylweddol a dyw hynny ddim yn help."
Ond dywedodd fod y t卯m wedi gweithio'n galed i sicrhau fod y safle yn perfformio'n dda.
Safleoedd Tata yng Nghymru
Port Talbot: 4,000 o weithwyr
Llanwern a Chasnewydd: 1,000
Shotton: 750
Trostre: 650
Caerffili: 200
Ym Mawrth 2016 dywedodd Tata eu bod am werthu eu safleoedd ym Mhrydain gan roi'r bai ar golledion mawr ar or-gynhyrchu yn y farchnad ryngwladol.
Ond ar 么l y cyhoeddiad hwnnw fe wnaeth Tata ailfeddwl, ac yn hytrach na gwerthu ceisio uno gyda chwmni Thyssenkrupp.
Cafodd cytundeb rhwng y ddau gwmni ei arwyddo yn haf y llynedd ac roedd yn aros sel bendith y Comisiwn Ewropeaidd.
Roedd pryderon gan rai y byddai'r uno yn creu cwmni oedd yn rhy fawr, yr ail gwmni dur mwyaf yn Ewrop.
Hefyd roedd pryder y byddai penderfyniad i uno yn golygu o bosib rhoi gwaith dur Trostre yn Llanelli ar werth, gan greu ansicrwydd i'r gweithwyr yno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd23 Mai 2016
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2017