Cyngor Sir Conwy am roi 拢49m ar gyfer ysgolion

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i aelodau cabinet Cyngor Sir Conwy gymeradwyo'r buddsoddiad ddydd Mawrth

Bydd ysgolion yn sir Conwy yn derbyn 拢49m dros y bum mlynedd nesaf fel rhan o gynllun i foderneiddio ysgolion yr ardal.

Mae'r buddsoddiad - fel rhan o Raglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif - ar gyfer gwella cyfleusterau ac adnoddau yn bennaf.

Mae disgwyl i aelodau cabinet gymeradwyo'r buddsoddiad brynhawn Mawrth.

Daw ar 么l i'r cyngor sir gadarnhau y byddai'n gwneud toriadau i'w holl wasanaethau yn gynharach eleni, mewn ymgais i fynd i'r afael 芒 diffyg ariannol o 拢15.7m.

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, y cynghorydd Garffild Lewis, fod y cyngor am wneud "popeth y gallwn i wella ein hysgolion".

"[R]wy'n edrych ymlaen i weld y prosiectau unigol yn dod yn eu blaen, o wella cyfleusterau presennol ac estyniadau i adeiladu ysgolion cyfan gwbl newydd," meddai.

Daw 拢43m gan Lywodraeth Cymru, gyda 拢6m ychwanegol yn dod drwy grantiau ar gyfer cynlluniau addysg amrywiol, gan gynnwys hybu cyfleusterau cyfrwng Cymraeg.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd protest ei gynnal tu allan i bencadlys newydd y cyngor ym Mae Colwyn fis Mawrth

Yn gynharach eleni, fe gadarnhaodd Cyngor Sir Conwy y byddan nhw'n gwneud toriadau i'w holl wasanaethau, i geisio mynd i'r afael 芒 diffyg ariannol o 拢15.7m.

Bydd y gyllideb addysg yn cael ei thorri 3.2% a bydd cynnydd o 9.6% i dreth y cyngor hefyd.

Ym mis Mawrth, bu tua 200 o bobl yn protestio tu allan i bencadlys newydd yr awdurdod lleol yn sgil y toriadau i'r sector addysg.