Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dod i adnabod y seiclwr Olympaidd Owain Doull
Y seiclwr Olympaidd, Owain Doull yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro ddydd Mercher.
Dywedodd y g诺r 26 oed o Gaerdydd ei fod yn falch o weld yr Urdd yn "datblygu eu hadran chwaraeon".
Roedd Owain yn aelod o d卯m ymlid Prydain Fawr a llwyddodd i ennill y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Rio ym Mrasil yn 2016, gan dorri record byd.
Ymunodd Owain 芒 th卯m Sky o d卯m Wiggins ar gyfer tymor 2017. Mae Sky bellach yn seiclo o dan yr enw Ineos.
'Helpu fi i garu'r iaith'
Doedd Owain methu a bod yn yr Eisteddfod ddydd Mercher oherwydd ymrwymiadau eraill, ond fe gafodd neges fideo ganddo ei dangos ddydd Mercher.
Er nad oedd yn un am gystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod, esboniodd bod yr Urdd wedi chwarae r么l bwysig iawn yn ei blentyndod.
"Tra yn yr ysgol, oedd yr Urdd yn allweddol o ddydd i ddydd, o chwaraeon i berfformio a celf a chrefft.
"Ond i fi yn bersonol, oedd yr Urdd wedi chwarae'r r么l fwyaf yn fy helpu i garu'r iaith Gymraeg.
"Dwi dal i gofio'r geiriau ar gyfer c芒n 'Hei Mistar Urdd' hyd yn oed!"
Dywedodd nad oedd cymaint o bwyslais ar chwaraeon, ond ei fod yn falch o weld yr elfen yna'n tyfu o fewn y mudiad.
"Mae'n bwysig cofio mai nid pawb sy'n dda am ganu, dawnsio ac actio, ond mae pawb yn dda am rywbeth," meddai.
"Felly mae'n braf gweld yr Urdd yn datblygu eu hadran chwaraeon o fewn Cymru."
Dyw Owain ddim yn byw yng Nghymru rhagor, ond dywedodd ei fod wastad "yn cymryd y cyfle" i siarad Cymraeg pan fydd gyda'i ffrindiau.