大象传媒

Y ffermwr sy'n seren marathon rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
dewiFfynhonnell y llun, DewiGriffiths/Getty

Pan ysgrifennodd bachgen saith oed mewn prosiect ysgol ei fod yn 'caru rhedeg' ac wedi bod yn 'eithaf llwyddiannus' mewn rasys hwyl, ychydig a wyddai y byddai ar ei ffordd i Bencampwriaethau Athletau'r Byd ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Dyna yw stori Dewi Griffiths oedd yn un o'r ugain cyflymaf yn ras y dynion ym Marathon Llundain eleni gan rasio yn erbyn enwogion fel Syr Mo Farah ac Eliud Kipchoge.

Ond tra'u bod nhw'n hyfforddi mewn canolfannau pwrpasol yn Ethiopia a Kenya, ymarfer o gwmpas lonydd ardal Llandeilo fydd y Cymro tra'n gweithio ar y fferm deuluol.

Dywed Dewi Griffiths ei fod wedi cael gwefr o redeg ers pan yn blentyn ifanc yn cael ei fagu yn Llanfynydd, ger Llandeilo, a bod hynny'n amlwg o ddarllen ei brosiect 'Pwy yw fi' ysgrifennodd ugain mlynedd yn 么l.

"O'n i'n licio rhedeg pan oeddwn i tua saith oed, o'n i'n gwneud sports ysgol neu yn y pentrefi rownd fan hyn a wastad yn joio rhedeg - neu ras sach neu ras 诺y. Unrhywbeth o'n i'n gallu o'n i'n mo'yn 'neud e," meddai.

Ffynhonnell y llun, DewiGriffiths/Athletau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dewi Griffiths mewn ras pan yn fachgen ysgol, ac fel oedolyn

"Sna'm byd tebyg i deimlo dy fod di'n hedfan a phopeth yn teimlo'n rhwydd - jest rhedeg. Ma'n anodd disgrifio fe - ond mae rhywbeth amdano fi'n rili mwynhau."

Bu'n rhedeg gyda th卯m yr ysgol cyn ymuno 芒 Harriers Caerfyrddin gan gystadlu mewn rasys traws gwlad, ffordd a thrac.

Fe aeth y rhedwr, sy'n 27 oed ac yn cael cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a British Athletics erbyn hyn, yn ei flaen i astudio mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe cyn mynd n么l adref i helpu ar y fferm a chanolbwyntio ar ei redeg.

"Ro'n i wastad yn gwybod mai pellter hir fyddwn i'n 'neud - mae gwahanol bobl yn built i wahanol bellteroedd.

"O'n i byth y boi cyflyma' ond fyddwn i'n gallu rhedeg rep (repetition) ar 么l rep ar yr un cyflymder. Fi oedd y boi bach oedd yn gallu cario 'mlaen i fynd.

"Mae'n cymryd blynyddoedd i ddatblygu yn gorfforol a meddyliol achos chi mas yna ar ben eich hunain am amser maith."

Ffynhonnell y llun, John Patrick Fletcher
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y rhedwr gyda Syr Mo Farah ar 么l rasio yn hanner marathon Llundain yn gynharach eleni

Ei farathon cyntaf oedd yn Frankfurt yn 2017 a'i ail un oedd Llundain eleni pan redodd mewn dwy awr ac 11 munud - yn y 16eg safle, saith munud tu 么l i Syr Mo Farah.

Byddai'r rhan fwyaf o bobl angen seibiant go hir ar 么l ras 26.2 milltir ar y fath gyflymder - ond roedd Dewi yn 么l yn gweithio ar y fferm deuluol o fewn deuddydd.

"Nes i ddim lot o am gwpwl o ddyddiau, o'n i'n jympo ar y quad bike i fynd rownd defaid yn lle cerdded rownd - jest falle dim egni a digwydd bod doedd dim angen gwneud ddim byd mawr," meddai.

"Amser hyn o'r flwyddyn fyddai'n cerdded rownd stoc, ma'n neis cael mynd am walk a chael awyr iach a neis i wneud rhywbeth hollol wahanol yn lle meddwl am redeg trwy'r amser.

Ffynhonnell y llun, Athletau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhedodd Dewi Marathon Frankfurt ym mis Hydref 2017 mewn 2 awr, 9 munud a 49 eiliad

"Mae Mo Farah yn hala misoedd yn Ethiopia lot o'r flwyddyn ond so pawb yn mynd i wella wrth 'neud hynny achos mae'n eithaf caled 'neud hynny. Chi bant oddi wrth bawb a home comforts ac ati. Byw a bod ar y fferm sydd wedi helpu fi mor belled, mae wedi gweithio felly pam newid popeth?"

Mae Dewi Griffiths yn rhedeg ddwywaith y dydd, bedair gwaith yr wythnos ac yn gwneud dros 100 milltir yr wythnos.

Mae ei fryd ar gystadlu yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 ond cyn hynny mae ganddo bencampwriaethau'r byd yn Doah, yn Qatar, lle fydd y tymheredd yn wahanol iawn i Gymru.

"Er bod y ras yn dechrau am un funud i hanner nos fydd y tymheredd dal yn yr ugeiniau cynnar neu uwch felly fyddai'n mynd draw i rywle, Dubai mae'n si诺r gyntaf, i ddod yn gyfarwydd 芒'r gwres.

Ffynhonnell y llun, Graham Glendenning

"Os gawn ni haf fel llynedd fydd hi'n berffaith, ond os fydd hi'n oer neu lawog falle fydd rhaid i fi feddwl mynd mas rhywle twym am gwpwl o wythnosau - a 'neud si诺r fi'n yfed digon.

"Efallai bydd rhaid gwneud heat training drwy wisgo mwy - ond fan yno mae Athletau Cymru neu British Athletics yn rhoi cyngor i mi - fydd nhw'n dweud beth i'w wneud a beth i ddisgwyl."