Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cosb lem i CPD Bangor am dorri rheolau ariannol
Mae Clwb P锚l-droed Dinas Bangor yn wynebu disgyn i'r drydedd adran yng Nghymru ar 么l eu cael yn euog o dorri rheolau ariannol yn ymwneud 芒 chofrestru chwaraewyr.
Yn sgil penderfyniad Cymdeithas B锚l-droed Cymru, fe fyddan nhw'n colli 42 o bwyntiau sy'n golygu y byddan nhw'n disgyn o'r Gynghrair Undebol.
Mae'r clwb hefyd wedi eu gwahardd rhag arwyddo chwaraewyr am weddill y flwyddyn.
Ond mae'r clwb yn mynnu eu bod wedi cydymffurfio 芒'r rheolau cofrestru, bod y gosb yn un "eithriadol o lym" a bydd penderfyniad y gymdeithas yn effeithio ar "lawer" o glybiau yng Nghymru.
Yn 么l y gymdeithas b锚l-droed, mae'r clwb wedi torri nifer o reolau gan gynnwys methu "cydymffurfio 芒'u goblygiadau at chwech o'u chwaraewyr proffesiynol presennol a / neu gyn-chwaraewyr proffesiynol", a chynnwys chwaraewyr anghymwys oedd wedi eu harwyddo neu eu trosglwyddo y tu allan i'r ffenestr drosglwyddo.
Mae gan y clwb tan 29 Mai i gyflwyno ap锚l, ac mae'r clwb wedi cadarnau bod bwriad i wneud hynny.
42 o bwyntiau yw cyfanswm pwyntiau'r clwb yng Nghynghrair Undebol Huws Gray yn ystod tymor 2018/19, ac fe fyddai'r gosb yn golygu eu bod yn llithro o'r ail gynghrair.
Roedden nhw'n ail yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwedd tymor 2017/18 cyn i'w cais am drwydded i barhau ar y lefel yno fethu.
Ers hynny mae'r clwb wedi osgoi cais i'w ddirwyn i ben dros fethiant i dalu treth, a bu'n rhaid chwarae g锚m gartref ar faes Conwy ym mis Ionawr wedi toriad yn y cyflenwad trydan a d诺r dros fil oedd heb ei dalu.
Ym mis Ebrill, fe bleidleisiodd Cymdeithas Cefnogwyr CPD Dinas Bangor o blaid sefydlu clwb newydd, ac yn 么l Dafydd Hughes ni fydd y gosb yn effeithio ar eu hymdrechion.
Mae cais ffurfiol wedi ei gyflwyno i Gymdeithas B锚l-droed Cymru, a fydd yn cael ei ystyried ar 17 Mehefin.
Dywedodd Mr Hughes: "Mae'n anodd meddwl am unrhyw glwb sydd wedi cael ei gosbi i'r fath raddau yn y gorffennol.
"Wrth gwrs, mae 'na 12 cyhuddiad yn erbyn y clwb a ma' nhw i gyd yn cario rhyw fath o ddirwy.
"Mae'r clwb wedi dweud bod nhw'n apelio - maen nhw'n gwadu i bob pwrpas bod nhw 'di neud dim byd o'i le... amser a ddengys be' ddoith o hynny."