大象传媒

拢114m wedi'i wario cyn cefnu ar gynllun liniaru'r M4

  • Cyhoeddwyd
M4
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar y cynllun i adeiladu traffordd newydd yn ardal Casnewydd

Mae wedi dod i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi gwario 拢114m ers 2013 ar y cynllun i adeiladu ffordd liniaru ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ddydd Mawrth iddo ddod i'r casgliad y byddai'r draffordd newydd 14 milltir o hyd yn rhy gostus ac yn rhy niweidiol i'r amgylchedd.

Fe ddaeth y gost i'r amlwg wrth i'r Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates gyhoeddi y bydd comisiwn fydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd eraill o leihau traffig yn adrodd yn 么l ymhen chwe mis.

Mae Mr Skates i roi'r gorau i'r cynllun 拢1.6bn, ac mae'r datganiad yn cynnwys nifer o fesurau er mwyn lleddfu trafferthion traffig:

  • Swyddogion traffig ychwanegol i leihau digwyddiadau ac osgoi cau lonydd, fel yn ystod digwyddiadau mawr;

  • Cerbydau achub sydd ar alw i gefnogi swyddogion traffig trwy symud rhwystrau'n gyflym, fel ag sy'n digwydd pan y gwneir gwaith ar y ffordd;

  • Gwybodaeth fyw am deithiau i helpu gyrwyr i wneud dewisiadau gwell;

  • Ystyried gweithrediad cyffyrdd er mwyn lleihau baich twnelau Bryn-glas;

  • Ymgyrch i newid ymddygiad gyrwyr i'w cael i wneud y defnydd gorau o'r lle sydd ar gael ar y ffyrdd.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgelu fod yr ymchwiliad cyhoeddus i hygrededd y ffordd wedi costio 拢44m.

Ond dywedodd Mr Skates ddydd Mercher fod cyfanswm o 拢114m o arian cyhoeddus wedi'i wario ar y cynllun ers 2013.

Mewn datganiad i'r Senedd dywedodd na fydd yr arian "yn cael ei wastraffu a bydd [y wybodaeth] o ddefnydd i'r comisiwn, gan sicrhau fod aelodau yn cael y wybodaeth lawn o ran modelu trafnidiaeth, arolygon amgylcheddol ac unrhyw ffactorau eraill sydd yn berthnasol."

Ystyried cyfuniad o opsiynau

Yn 么l Mr Drakeford bwriad y comisiwn fydd creu system drafnidiaeth integredig sydd hefyd yn garbon-isel.

Daw'r penderfyniad i droi cefn ar y draffordd chwe l么n ar 么l ymchwiliad cyhoeddus.

Dywedodd Mr Skates wrth 大象传媒 Cymru y byddai'r comisiwn yn ystyried cyfuniad o opsiynau, yn ogystal 芒 28 cynllun amgen gafodd eu cynnig i'r ymchwiliad cyhoeddus.

Ond dywedodd bod angen mwy o ddefnydd o ffyrdd eraill fel yr A465.

Y gred yw na fydd Llywodraeth Cymru yn diystyru unrhyw syniadau, gan gynnwys cau rhai o gyffyrdd yr M4.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford nad oes atebion syml i'r broblem o dagfeydd

Yr Arglwydd Burns fydd cadeirydd y comisiwn newydd, ac mae disgwyl adroddiad o fewn chwe mis.

Mae'r Arglwydd Burns yn gyn-ysgrifennydd parhaol i Drysorlys y DU ac yn gyn-gadeirydd ar gwmni Glas Cymru.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r panel o arbenigwyr ar y comisiwn yn cael eu harwain gan uchelgais y llywodraeth i ddatblygu "system drafnidiaeth integredig a charbon isel o safon uchel".

Ychwanegodd y byddai'r comisiwn yn cael yr opsiwn cyntaf i geisio "am yr arian a fyddai fel arall wedi cael ei neilltuo ar gyfer ffordd lliniaru'r M4".

Ond rhybuddiodd nad oedd yna "unrhyw atebion syml" i fynd i'r afael 芒'r broblem.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mike Payne bod "angen ymateb chwim"

Yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol, dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi gwneud ei benderfyniad mewn cyfnod o "amhendantrwydd eithriadol ynghylch ein dyfodol ariannol, oherwydd ansicrwydd Brexit a llymdra".

Yn 么l y g诺r oedd yn goruchwylio'r ymchwiliad cyhoeddus, yr arolygydd cynllunio Bill Wadrup, roedd yr achos o blaid y ffordd yn un cryf.

Roedd y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, yn gefnogol i'r cynllun am draffordd newydd, ac roedd cefnu ar y cynllun yn torri addewid maniffesto a wnaed gan Lafur yn 2016.

Dywedodd Mike Payne, aelod o undeb y GMB ac aelod o fwrdd gweithredol Llafur Cymru, y bydd aelodau Llafur yn siomedig ac yn teimlo'n rhwystredig gyda'r penderfyniad.

Fe fydd yna "ymateb chwyrn" os nad oes ateb arall yn sydyn, meddai.

Dywedodd hefyd bod Mr Drakeford wedi "creu problem" oni bai ei fod yn dod o hyd i atebion yn fuan.