大象传媒

Barwnes Grey-Thompson: Ofn i Addysg Gorfforol 'ddiflannu'

  • Cyhoeddwyd
Y Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Bydd bil y gwasanaeth iechyd yng Nghymru (GIG) yn "mynd drwy'r to" ymhen 15 mlynedd, oni bai bod ysgolion yn cyflwyno gwersi Addysg Gorfforol reolaidd i ddisgyblion, yn 么l y Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Mae'r seren Baralympaidd, sy'n aelod o D欧'r Arglwyddi, wedi beirniadu'r cwricwlwm drafft newydd i Gymru, gan ddweud bod angen neilltuo amser ar gyfer ymarfer corff mewn ysgolion.

Nid yw'r cwricwlwm newydd, a gaiff ei gyflwyno yn 2022, yn clustnodi amser penodol o ymarfer corff i ddisgyblion bob wythnos, gan adael y penderfyniad yn agored i ysgolion.

Mynnu mae'r Llywodraeth bod y cwricwlwm newydd yn blaenoriaethu iechyd corfforol plant a phobl ifanc.

'Poeni i AG ddiflannu'

Ond pryder y Farwnes yw bydd chwaraeon ac addysg gorfforol yn diflannu o rai ysgolion dan y cwricwlwm newydd.

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad yn adleisio'r pryderon, gan ddweud bod newid yn hanfodol i fynd i'r afael ar argyfwng iechyd y cyhoedd.

Wrth siarad ar raglen Wales Live 大象传媒 Cymru, dywedodd y Farwnes ei bod yn poeni i addysg gorfforol "ddiflannu" gan fod addysgu pynciau eraill yn "haws".

"Os na fydd chwaraeon yn cael ei grybwyll yn benodol, bydd e ddim yn flaenoriaeth rhagor, ac fe all ddod i ben.

Esboniodd na fydd y broblem i'w gweld yn syth, ond mewn "15 neu 20 mlynedd pan fydd bil y GIG yn mynd drwy'r to oherwydd ddiffyg ffitrwydd ymysg oedolion ifanc".

Tra'n gadeirydd ar gr诺p oedd yn edrych ar Addysg Gorfforol mewn ysgolion, cynigiodd y Farwnes bod y pwnc yn cael yr un statws a phynciau craidd fel mathemateg, Saesneg, Cymraeg a gwyddoniaeth.

Ni chafodd y syniad ei dderbyn, ac fe gomisiynwyd yr arbenigwr addysg, yr Athro Graham Donaldson, gan Lywodraeth Cymru i lunio cwricwlwm newydd.

Mae'r cwricwlwm drafft - a gyhoeddwyd ym mis Mai - yn cynnig chwe maes Dysgu a Phrofiad, gan gynnwys Lles, sy'n canolbwyntio ar weithgarwch corfforol, ochr yn ochr 芒 phynciau fel rhywioldeb, perthnasoedd a bwyta'n iach.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gethin M么n Thomas: Am sicrhau bod chwaraeon yn cael ei werthfawrogi mewn cymdeithas

Mae Gethin M么n Thomas o GwE - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru - wedi bod yn cynghori ysgolion a Llywodraeth Cymru ar elfen lles y cwricwlwm newydd.

Dywedodd bydd y cwricwlwm newydd yn sicrhau canlyniadau gwell na'r cynllun a gafodd ei gynnig gan y Farwnes yn 2013 a bod y "cwricwlwm yn rhoi cyfle i chwaraeon gael eu defnyddio fel cyfrwng i gefnogi dysgu".

"Fe fyddwn ni'n sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch yn cael ei werthfawrogi mewn cymdeithas, yn hytrach na chael ei weld fel rhywbeth mae grwpiau bach o unigolion yn elwa ohono," meddai.

Disgrifiad,

Naomi Davies: 'Perygl o golli'r elfen gystadleuol o chwaraeon'

Diffyg arweinyddiaeth?

Mae un athrawes Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili, yn bryderus am sut gall ystod y cwricwlwm arwain at "ddiffyg arweinyddiaeth".

Dywedodd Naomi Davies: "Ar hyn o bryd mae o'n eithaf strwythuredig, ond gyda'r cwricwlwm newydd mae 'na berygl o golli'r elfen gystadleuol o chwaraeon."

Dywedodd Gweinidog Addysg Kirsty Williams bod y cwricwlwm "yn ystyried pwysigrwydd gweithgarwch corfforol ar gyfer lles corfforol a meddyliol ein plant".

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu 拢24m i sicrhau bod athrawon ac ymarferwyr yn barod i gyflwyno'r cwricwlwm newydd yng Nghymru.