Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cadarnhad y bydd Gatland yn arwain y Llewod yn 2021
Prif hyfforddwr t卯m rygbi Cymru, Warren Gatland fydd prif hyfforddwr y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 2021.
Daeth cadarnhad swyddogol fore Mercher mai'r g诺r o Seland Newydd fydd yn arwain y t卯m - a hynny am y trydydd tro.
Mae Gatland eisoes wedi ennill cyfres yn Awstralia yn 2013 a sicrhau cyfres gyfartal yn erbyn y Crysau Duon yn 2017.
Roedd hefyd yn rhan o d卯m hyfforddi Syr Ian McGeechan ar y daith i Dde Affrica yn 2009.
Bydd Gatland yn gadael fel prif hyfforddwr Cymru yn dilyn Cwpan y Byd yn Japan, gyda Wayne Pivac o'r Scarlets yn cymryd ei le.