大象传媒

Y Barri: Mwy na dim ond 'Gavin & Stacey'

  • Cyhoeddwyd

Mae pumed G诺yl Fach y Fro yn cael ei chynnal yn y Barri y penwythnos yma.

Yn aml, o glywed 'Y Barri', mae nifer yn meddwl am barc pleser Ynys y Barri, neu'r gyfres Gavin & Stacey.

Ond fel mae'r gyflwynwraig a brodor o'r Barri, Llinos Lee, yn ei ddweud, mae llawer mwy i'r dref na hynny:

Ffynhonnell y llun, Menter Bro Morgannwg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Candelas yn perfformio yn Ng诺yl Fach y Fro

Ges i fy magu yn Y Barri, ac er mod i wedi symud i ffwrdd i'r brifysgol, byw mewn gwahanol lefydd am sbel, ddes i n么l i'r Barri i setlo lawr... a dwi dal yma nawr.

Cafodd fy nhad i ei fagu yma, a'r pellaf mae e wedi byw ydi Caerdydd am flwyddyn! Mae e wastad yn dweud "Barry boy through and through", ac yn adrodd hanesion e am fel oedd y docie. Roedd ei rieni e yn byw yma hefyd.

Dyma lle ydi 'adre' i fi.

Ffynhonnell y llun, Llinos Lee
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llinos wedi byw mewn nifer o lefydd gwahanol, ond wedi dychwelyd i'r Barri

Beth sy'n rhyfedd yw, o fy ngr诺p o ffrindie i o'r ysgol, ry'n ni i gyd wedi bod i ffwrdd ond rydyn ni i gyd wedi dod n么l i'r Barri.

'Sai'n gwybod pam, ond mae jest rhywbeth am y lle. Er mai dyma un o drefi mwyaf Cymru, mae 'na dal deimlad o gymuned, ac mae pawb yn 'nabod pawb.

Rydyn ni reit ar stepen drws Caerdydd, ond mae gennyn ni draethau a pharciau anhygoel ac mae 'na lot o hanes yma.

Mae'n lle gwych i fyw.

Gwaddol Gavin & Stacey

Roedd Gavin & Stacey yn beth da i'r dref. Roedd e'n exciting gweld y criwie yn dod i ffilmio ar Ynys y Barri, neu Trinity Street, lle oedd t欧 Stacey.

Erbyn hyn, mae'r fenyw sy'n berchen ar y t欧 eisiau i bawb wybod mai dyma oedd Y t欧 ac mae hi wedi rhoi lluniau yn y ffenestri. Mae hi'n amlwg wrth ei bodd!

Nawr, os oes rhywun yn gofyn 'o lle ti'n dod?', dwi'n cael 'Oh - what's occurin'?' yn 么l, sydd braidd yn ddiflas...! Ond mae e wedi dod 芒 lot o sylw, a lot o ymwelwyr a thwristiaid yma sydd yn beth da, achos wedyn maen nhw'n gweld falle fod e ddim beth oedden nhw'n ei ddisgwyl.

Ffynhonnell y llun, BABY COW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gavin a Stacey, a'u teuluoedd, yn mwynhau't tywydd braf ar draeth Ynys y Barri

Dwi'n meddwl fod pobl yn meddwl fod y lle am fod yn run-down, yn enwedig yr Ynys. Butlins oedd heyday Barry Island, ac wedyn roedd cyfnod yn y canol lle roedd yn edrych bach yn fl锚r.

Ond dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae'r Barri 'di cael facelift masif, ac mae lot mwy i'r dre'.

Mae'r ardal y Cnap yn rili hardd - mae hynny yn rhywle lle nes i treulio lot o amser fel plentyn, yn mynd ar y traeth, y llyn, ac roedd arfer bod pwll nofio yna hefyd - felly pob gwylie ysgol oedden ni lawr 'na. A dwi'n dwlu ar y ffaith fod y llyn yn si芒p telyn hefyd!

Ac mae High Street wedi datblygu i fod yn stryd 'da lot o boutiques bach lyfli ac mae bron pob un o'r busnesau yn cael eu rhedeg gan bobl leol. Adeg 'Dolig, dwi'n trio prynu pob dim o'r stryd yna, ac mae'n bosib gwneud hefyd achos mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae'r ynys wastad wedi bod yn brysur, ond mae bellach yn brysurach byth, achos dyw pobl methu mynd i ffwrdd ar wyliau ddim mwy, felly mae diwrnod ar y traeth, pan mae'r tywydd yn dda, cystal ag unrhyw le yn y byd.

Os mai diwrnod yn yr haul ar y traeth chi eisiau, pam ddim mynd i Ynys y Barri? Ac mae'r bobl leol yn gwybod yn iawn - os ydi hi'n braf, 'nawn ni osgoi'r Ynys a mynd i'r traethau eraill dyw pobl eraill ddim yn gwybod eu bod yn bodoli.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymwelwyr yn heidio i draethau'r Barri ar ddiwrnod braf

Y Gymraeg yn Y Barri

Pan o'n i'n Ysgol Sant Baruc, dyna oedd yr unig ysgol Gymraeg yn Y Barri ar y pryd. Erbyn hyn mae yna bedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd Gymraeg, sy'n dangos fod yr iaith yn ffynnu yn y dref.

Cymraeg mae Mam yn ei siarad, ond Saesneg yw iaith fy nhad, er roedd e wastad yn awyddus i ni siarad Cymraeg ac i gael addysg Gymraeg.

Yn yr ysgol, dim ond cwpwl ohonon ni oedd gyda rhieni oedd yn siarad Cymraeg adref. Roedd tua 95% o'r disgyblion yn dod o deuluoedd di-Gymraeg - mae'n anhygoel fod y rhieni 'di gneud yn penderfyniad i'w hanfon i ysgol Gymraeg.

Bellach mae fy mab i yn mynd i'r un ysgol gynradd ag es i. Mae 'na dipyn o rieni'r ysgol yn siarad Cymraeg, ond mae 'na hefyd lot sydd wedi dysgu. Mae'r adnoddau dysgu yn llawer gwell, ac mae Menter Bro Morgannwg wedi cael effaith wych drwy gynnal gwersi a digwyddiadau Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Llinos Lee
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llinos a'i mab, Guto, chwaraewr i Glwb Rygbi'r Barri

Achos o'n i'n aelod o Gapel y Tabernacl pan o'n i'n blentyn, ro'n i'n ymwybodol o bwy oedd yn siarad Cymraeg, achos y gymuned o Gymry Cymraeg yn y capel. Ond os oedden ni'n mynd i gaffi neu rhywbeth, o'n i ddim wir yn clywed yr iaith o ddydd-i-ddydd tu fas i'r ysgol.

Ond erbyn hyn ry'n ni yn, ym mhob man, sydd yn wych. Falle ei fod e achos mod i'n h欧n ac yn fwy ymwybodol o'r peth, ond faswn i'n dweud fod mwy a mwy o bobl yn siarad Cymraeg yn y Barri y ddyddiau yma.

Roedd y Gymraeg ar goll o Gavin & Stacey, heblaw am ambell i gyfeiriad, oedd yn siom. Roedden nhw'n gwneud hwyl am yr un cymeriad oedd yn siarad Cymraeg yn y gyfres, yn holi cwestiynau am 'wastraffu arian' ar arwyddion dwyieithog, ac yn gwneud iddo ymddangos fel nad oedd yna Gymraeg o gwbl yn Y Barri.

Ffynhonnell y llun, Menter Bro Morgannwg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae mwy o weithgareddau Cymraeg ar gael i blant a phobl ifanc yn yr ardal y dyddiau yma, meddai Llinos

Ond doedd e ddim yn adlewyrchu Y Barri dwi'n byw ynddo. Mae yna lot o Gymraeg yma.

G诺yl Fach y Fro

Dyna pam dwi wrth fy modd gyda llwyddiant G诺yl Fach y Fro, sydd yn mynd o nerth i nerth.

Dwi am fod yn cyflwyno llwyfan yr ysgolion eleni, lle mae plant ysgolion y Fro i gyd yn cael slot. Mae hynny'n denu'r rhieni i'w gwylio nhw, ond mae e hefyd yn dangos i'r plant fod yna ddigwyddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg allwch chi fwynhau tu fas i'r ysgol hefyd.

Pan o'n i'n tyfu lan, heblaw am glwb yr Urdd ar 么l ysgol, 'sai'n cofio fod yna lot o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg - ond mae gymaint o ddewis i'r plant y dyddiau yma.

Ffynhonnell y llun, Llinos Lee
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llinos yn mwynhau yng Ng诺yl Fach y Fro gyda'i theulu

A gan fod pobl lawr yno am y diwrnod beth bynnag, mae'n nhw'n dod ar draws yr 诺yl ar ddamwain, ac mae hyn yn ffordd wych i hyrwyddo'r iaith.

Mae G诺yl Fach y Fro yn ddiwrnod rili lyfli, beth bynnag yw'r tywydd (er yn amlwg mae hi lot neisiach os yw'r haul mas!) ac mae pawb jest yn joio.

Ac wrth gwrs, pa le gwell i gynnal g诺yl nag yn Y Barri?!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

G诺yl Fach y Fro, gydag olwyn fawr ffair Ynys y Barri yn y cefndir

Hefyd o ddiddordeb: