Ystyried trenau cyflymach rhwng Llundain a Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Seth Whales

Disgrifiad o'r llun, Byddai'r gwasanaeth newydd yn teithio rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Paddington yn Llundain

Mae trafodaethau wedi dechrau yngl欧n 芒 chyflwyno gwasanaeth tr锚n cyflymach rhwng Caerdydd a Llundain.

Byddai gwasanaeth newydd Grand Union Trains yn herio Great Western Railway - sydd eisoes yn cynnig teithiau rhwng y ddwy brifddinas.

Gallai'r gwasanaeth newydd gymryd 20 munud yn llai i gyrraedd Llundain drwy beidio stopio mewn cymaint o orsafoedd ar hyd y daith.

Dywedodd y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) nad ydynt wedi derbyn cais swyddogol ond eu bod yn ymwybodol bod trafodaethau cynnar wedi dechrau.

Byddai'r gwasanaeth newydd - fyddai ar gael bob awr - yn teithio rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Paddington yn Llundain.

Dywedodd Grand Union mai awr a hanner fyddai'r daith yn ei gymryd, drwy beidio 芒 stopio yn Swindon, Didcot a Reading.

Pe bai'r cais yn llwyddiannus gallai fod ar gael erbyn mis Rhagfyr 2020.

'Profiad o lwyddo'

Mae rheolwr Grand Union Trains, Ian Yeowart wedi lansio gwasanaethau o'r fath yn y gorffennol, gan gynnwys un rhwng gorsafoedd King's Cross yn Llundain a Sunderland.

Ychwanegodd y cwmni bod "t卯m profiadol" yn gweithio ar y cynllun a'i bod yn bwriadu gwneud cais am drwydded gweithredu a thystysgrif diogelwch ar y cyd gyda'r cais.

Yn 么l yr arbenigwr trafnidiaeth, Stuart Cole mae gan Mr Yeowart brofiad helaeth o lwyddo yn y maes.

"Mae o wedi targedu rhan prysuraf y lein a'r rhan sy'n cynhyrchu'r elw mwyaf," meddai.

"Bydd hyn yn arwain at fwy o drenau ar y farchnad a cawn weld be fydd hynny'n golygu o ran prisiau."