大象传媒

Pwyllgor yn pryderu am y diwydiant bwyd ar 么l Brexit

  • Cyhoeddwyd
caws Caerffili

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu brand clir ar gyfer bwyd a diod o Gymru ar 么l Brexit.

Yn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - 'Ailfeddwl bwyd yng Nghymru: Brandio a Phrosesu Bwyd' - maen nhw'n galw am eglurder gan y llywodraeth mewn perthynas 芒'r diwydiant bwyd a diod.

Clywodd y pwyllgor y bydd yn bwysicach i bwysleisio hunaniaeth Gymreig yn hytrach na Phrydeinig ym marchnadoedd Ewrop yn y dyfodol, gan fod Brexit wedi cael effaith negyddol ar enw da'r DU mewn nifer o wledydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn "darparu ymateb cynhwysfawr i'r adroddiad a'i holl ganlyniadau maes o law".

Yn 么l cadeirydd y pwyllgor, Mike Hedges AC: "Ry'n ni'n gwybod o arolygon cwsmeriaid bod wyth o bob 10 o Gymry yn prynu cynnyrch o Gymru os yw'r pris yn iawn.

"Rhaid i ni sicrhau ei bod yn hawdd adnabod cynnyrch o Gymru, a hynny'n ddomestig ac yn rhyngwladol.

"Mae'r heriau sy'n cael eu cyflwyno gan Brexit yn gwneud hyn yn bwysicach nag erioed."

Gweithwyr o Ewrop

Roedd y pwyllgor yn awyddus bod Llywodraeth Cymru'n egluro "ar fyrder" sut y maen nhw'n bwriadu datrys unrhyw ostyngiad yn nifer y gweithwyr o'r Undeb Ewropeaidd sy'n gweithio yn y diwydiant ar 么l Brexit.

Mae eu hadroddiad yn pwysleisio bod cynhyrchwyr bwyd yn bryderus am newidiadau Llywodraeth y DU i'r polisi mewnfudo ar 么l Brexit, ac y gallai hynny arwain at "brinder sylweddol o weithwyr" yn y diwydiant.

Dywedodd Hybu Cig Cymru wrth y pwyllgor fod mwy na hanner y gweithwyr sy'n prosesu cig yn fudwyr - yn bennaf o'r UE - a bod 90% o filfeddygon mewn lladd-dai o'r UE hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu strategaeth fwyd 么l-Brexit, ond mae'r pwyllgor wedi galw am eglurder am ba bryd y bydd y cael ei chyhoeddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe fydd ein cynllun gweithredu presennol ar fwyd a diod, Tuag at Dwf Cynaliadwy, yn cael ei gwblhau eleni, ac fe fydd ein cynllun gweithredu nesaf yn agored i ymgynghoriad ym mis Gorffennaf.

"Fe fyddwn yn darparu ymateb cynhwysfawr i'r adroddiad a'i holl ganlyniadau maes o law."