Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gohirio cynlluniau i osod isafbris alcohol 'tan 2020'
Mae cynlluniau i osod isafbris alcohol yng Nghymru yn cael eu gohirio tan 2020 ar 么l i wlad sy'n aelod o'r UE rwystro'r broses.
Roedd disgwyl i'r newidiadau, fyddai'n gosod isafbris o 50c yr uned ar gyfer alcohol, ddod i rym yn yr haf.
Ond mae'r broses wedi cael ei arafu ar 么l i Bortiwgal wrthwynebu'r cynllun.
Does dim manylion wedi dod i law am natur gwrthwynebiad Portiwgal, ond roedd hefyd yn un o bum gwlad wnaeth wrthwynebu deddfwriaeth debyg yn yr Alban pan gafodd ei chyflwyno yn 2013.
Wedi blynyddoedd o ddadlau cyfreithiol, fe roddodd Goruchaf Lys y DU s锚l bendith i'r ddeddf yn yr Alban yn 2017, gan ddweud nad oedd yn groes i reolau'r UE.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi dweud wrth ACau ei fod yn rhagweld y bydd rheoliadau newydd yn cael eu gosod yn yr hydref gyda'r isafbris yn dod i rym "yn gynnar yn 2020".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddem yn ystyried safbwynt yr aelod-wladwriaeth o'r UE (Portiwgal) ac yn adrodd 'nol i Gomisiwn yr UE yn fuan gydag ymateb llawn."