Twyllwyr yn ffugio rhifau ff么n y Cynulliad

Disgrifiad o'r llun, Mae staff y Cynulliad yn derbyn galwadau gan aelodau pryderus o'r cyhoedd

Mae twyllwyr sy'n honni eu bod yn swyddogion treth yn defnyddio rhifau ff么n y Cynulliad, gan achosi i'r staff dderbyn galwadau gan aelodau pryderus o'r cyhoedd.

Mae'n ffordd o geisio twyllo arian drwy fygwth dioddefwyr gyda chamau cyfreithiol.

Dywedodd un gweithiwr wrth 大象传媒 Cymru eu bod wedi cael nifer fawr o alwadau gan bobl yn ffonio'r rhifau yn 么l.

Mae'r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol ac Action Fraud wedi cael gwybod am y mater, meddai llefarydd ar ran y Cynulliad.

'Dryslyd'

Mae'r neges awtomatig yn honni bod swyddogion treth am ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn y derbynnydd, ac yn gofyn i'r galwr bwyso botwm i siarad 芒 gweithiwr er mwyn gallu gwneud taliad.

"Mae rhai yn ffonio yn 么l yn eithaf dryslyd," meddai aelod o staff y cynulliad wrth 大象传媒 Cymru.

Nid yw'r broblem yn benodol i Gymru ac efallai na fydd dioddefwyr sy'n dychwelyd y galwadau erioed wedi clywed am y Cynulliad.

"Nid yw hynny'n helpu," eglurodd y gweithiwr, a ddywedodd eu bod wedi "colli cyfrif" o'r nifer o alwadau maen nhw wedi ei dderbyn.

"Rydych chi'n ceisio dweud wrthyn nhw ei fod yn sgam, ond dydyn nhw ddim wedi clywed am y sefydliad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd un aelod o staff ei bod wedi derbyn pentwr o alwadau

Y term Saesneg am yr hyn sydd yn digwydd yw 'spoofing', lle mae'r twyllwr yn defnyddio rhifau ff么n y Cynulliad a sefydliadau eraill. Mae'r sawl sy'n derbyn yr alwad yn gweld rhif ff么n ffug.

Mae swyddfa Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cael llwyddiant wrth gael y diwydiant cyfathrebu i wahardd unrhyw un rhag ffugio'r defnydd o rif llinell gymorth y swyddfa dreth.

Ond mae'n ymddangos bod troseddwyr yn defnyddio rhifau ff么n y Cynulliad, a rhai sefydliadau a chwmn茂au eraill, sydd 芒 rhifau tebyg i linellau ff么n y swyddfa Cyllid a Thollau ei hun.

Dywedodd llefarydd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Yn anffodus, mae hwn yn fater parhaus ac mae'n rhan o sgam galwad ff么n awtomataidd wedi'i dargedu.

"Rydym yn gweithio gyda'r swyddfa Chyllid a Thollau a'n darparwyr ff么n er mwyn lleihau'r effaith ac rydym wedi hysbysu'r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol a Action Fraud.

"Rydym hefyd yn ymwybodol o sgamiau tebyg sy'n defnyddio negeseuon testun a byddem yn cynghori unrhyw un sy'n poeni am gynnwys y negeseuon i gysylltu 芒 llinellau cymorth swyddogol y swyddfa Dreth."