Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Archeolegwyr yn darganfod cerbyd Celtaidd yn Sir Benfro
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 大象传媒 Cymru
Mae archeolegwyr wedi darganfod rhannau o gerbyd Celtaidd ar dir fferm yn Sir Benfro.
Roedd dwy olwyn haearn a chleddyf o'r cerbyd yn y pridd, yn ogystal ag arteffactau efydd.
Mae union safle'r darganfyddiad yn gyfrinachol, ond ar yr un tir y llynedd fe gafodd gwrthrychau addurnol eu darganfod gan ddefnyddiwr synhwyrydd metel.
Mae Amgueddfa Cymru yn gwarchod y darnau o'r cerbyd ac yn gobeithio eu harddangos yn y dyfodol.
Mae'r cerbyd yn ddarganfyddiad sylweddol, ac roedd nifer yn gobeithio am ganfyddiad o'r fath wedi i Mike Smith ddod o hyd i sawl gwrthrych sy'n gysylltiedig 芒 cherbyd ym mis Chwefror 2018.
Yn dilyn ymchwiliad cychwynnol ym mis Mehefin 2018 gan archeolegwyr o Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, cafodd y safle ei gloddio ym mis Mawrth ac Ebrill eleni.
Mae Amgueddfa Cymru, Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi'r gwaith yn ariannol.
Daeth y t卯m o hyd i arteffactau efydd, olwynion haearn y cerbyd a chleddyf haearn, ac yn 么l Adam Gwilt, prif guradur archeoleg gyn-hanesyddol Amgueddfa Cymru, mae hwn yn "ddarganfyddiad arwyddocaol".
"Dyma'r cerbyd rhyfel cyntaf i'w ganfod yng Nghymru, ac yn wir yn ne Prydain," meddai.
"C芒i cerbydau rhyfel ymarferol a seremon茂ol eu defnyddio i arddangos p诺er a hunaniaeth eu perchnogion a llwythau ym Mhrydain ar ddiwedd Oes yr Haearn, fel mae'r addurniadau cain yn awgrymu.
"Ychydig a wyddom am y perchennog, ond mae'n debyg bod y cerbyd rhyfel hwn yn berchen i ddyn neu ddynes oedd 芒 statws uchel yn eu llwyth neu gymuned."
'Darganfyddiad unigryw'
Cafodd y gwrthrychau addurnol a ddarganfuwyd gan Mr Smith eu datgan yn drysor gan gwest crwner ym mis Ionawr 2019 ac ar hyn o bryd maen nhw dan ofal yr Amgueddfa Brydeinig.
Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio prynu'r gwrthrychau er mwyn eu harddangos ochr yn ochr ag olwynion a chleddyf y cerbyd yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Dywedodd yr Athro Kate Roberts, prif arolygydd henebion Cadw, y byddai'r cerbyd yn helpu ein dealltwriaeth o hanes Cymru.
"Mae darganfyddiad archeolegol unigryw fel hyn yn gwneud i ni ddychmygu tybed pwy oedd yn gyrru'r cerbyd ac am y byd y buont yn byw ynddi," meddai.
"Drwy astudio'r arteffactau hyn rydym yn gobeithio dysgu mwy am gyfnod pan oedd newid mawr yn si芒p yr Ymerodraeth Rufeinig yn ysgubo ar draws Cymru."