Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pencampwyr byd i gystadlu yn lag诺n syrffio Eryri
Bydd rhai o syrffwyr gorau'r byd yn cwrdd yn Eryri'r penwythnos hwn i gymryd rhan mewn cystadleuaeth syrffio arbennig.
Fe fydd Pencampwriaeth Syrffio Addasedig Cymru yn cychwyn ym mharc antur Surf Snowdonia ddydd Gwener.
Bydd 24 o syrffwyr o 13 o wledydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys dau gyn-bencampwr byd.
Dyma fydd y tro cyntaf i bencampwriaeth syrffio addasedig gael ei gynnal mewn lag诺n syrffio mewndirol.
Yn 么l y trefnwyr bydd cystadlu ar donnau cyson a dibynadwy sydd i'w cael mewn lag诺n o'r fath yn arwain at gystadleuaeth well.
Yn 么l un o'r trefnwyr, Llywelyn Williams o Abersoch, fe fydd y syrffwyr rhyngwladol yn cael blas arbennig o Gymru tra byddan nhw yma'n cystadlu.
"Mae syrffio yng ngwaed cymaint o bobl sy'n byw yng Nghymru, fe dyfais i fyny yn syrffio ar draethau fel Porth Ceiriad a Phorth Neigwl," meddai.
"Roeddwn i wedi eisiau gweld cymal Cymru ar y gylchdaith ers tipyn, ond roedd y tywydd annibynadwy yn llethu rhywfaint ar unrhyw gynlluniau oedd gennym ni.
"Yn ogystal 芒 hynny mae mynediad i draethau'n gallu bod yn anodd i syrffwyr addasedig."
Newidiodd hynny pan gr毛wyd Surf Snowdonia meddai Mr Williams, oherwydd y "cyfleusterau sy'n medru cystadlu gyda llefydd eraill ar draws y byd" a'r "lleoliad bendigedig".
Ar hyn o bryd mae'r cystadlaethau syrffio addasedig yn cael eu cynnal yn yr Unol Daleithiau, Bali, De Affrica ac Ewrop.
Mae pob un cymal ar y gylchdaith yn cyfrif tuag at bencampwriaeth ISA y byd - sy'n cael ei chynnal yn La Jolla, California.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru gynnal cymal ar y gylchdaith.
Bydd y syrffwyr yn cystadlu mewn tri chategori - sefyll, penlinio neu orwedd.
Tokyo 2020 nesaf?
Ymhlith y rhai a fydd yn cystadlu mae cyn-bencampwyr y byd Mark 'Mono' Stewart o Awstralia a Bruno Hansen o Ddenmarc.
Dywedodd Andy Ainscough, rheolwr-gyfarwyddwr y parc antur: "Mae gwylio'r syrffwyr yma, sy'n defnyddio techneg arbennig, yn wefreiddiol, ac mae wir yn eich calonogi.
"Fe ddaeth rhai o'r cystadleuwyr yma'n gynnar er mwyn mwynhau ychydig o heulwen gogledd Cymru ac i ymarfer cyn y gystadleuaeth ei hun."
Yn 么l y trefnwyr mae'r gamp o syrffio addasedig wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn fe fydd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn penderfynu a fyddan nhw'n cynnwys y gamp yng Ngemau Paralympaidd Tokyo 2020.
Mae syrffio eisoes wedi cael ei gadarnhau fel camp newydd yng Ngemau Olympaidd Tokyo.