Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Isetholiad Brycheiniog: Plaid Cymru i gefnogi'r Dem Rhydd
- Awdur, Gareth Pennant
- Swydd, Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n sefyll yn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed ar 么l penderfynu cefnogi'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd arweinwyr y ddwy blaid ei bod hi'n bwysig fod pleidiau sydd am weld y DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn "cydweithio".
Bydd isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cael ei gynnal ar 1 Awst ar 么l i 10,005 o bobl arwyddo deiseb i ddiswyddo'r AS Ceidwadol Chris Davies.
Fe fydd ymgeiswyr ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Brexit a Llafur Cymru hefyd yn sefyll.
Daeth Plaid Cymru yn bedwerydd yn yr etholaeth yn etholiad cyffredinol 2017 gyda 1,299 o bleidleisiau.
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Vince Cable ei fod "wrth ei fodd" gyda phenderfyniad Plaid Cymru i gefnogi eu hymgeisydd nhw.
"Rwy'n credu mai ni sydd 芒'r cyfle gorau i ennill yr isetholiad ac mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd mewn ffordd ehangach," meddai.
Fe awgrymodd Syr Vince hefyd y gall y pleidiau gydweithio mewn etholiadau yn y dyfodol.
"Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw ymrwymiadau penodol, ond does dim amheuaeth y gall cydweithredu fel hyn arwain at fesurau yn y dyfodol."
'Y cam cyntaf'
Dyma "gam mawr", yn 么l Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, gan ddweud mai dyma'r "peth cywir i'w wneud".
Dywedodd: "Ry'n ni'n byw mewn cyfnod difrifol, sy'n galw am wleidyddiaeth ddifrifol ac aeddfed.
"Mae pobl sydd o blaid aros eisiau i'r pleidiau sydd o blaid aros weithio gyda'i gilydd.
"Dyma'r cam cyntaf, rwy'n gobeithio, ac ry'n ni wedi ymrwymo i barhau i edrych ar sut y gallwn ni gydweithio mewn etholiadau yn y dyfodol hefyd."
'Hanesyddol a dewr'
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds bod penderfyniad Plaid Cymru yn "hanesyddol a dewr".
"Rwy'n gweithio pob dydd i drechu'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yma, ac mae'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig gan Blaid Cymru yn cael ei groesawu'n fawr," meddai Ms Dodds - ymgeisydd ei phlaid ar gyfer yr isetholiad.
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ei fod yn teimlo nad oedd gan Blaid Cymru "lawer o ddewis yn y diwedd".
"Maen nhw wedi s么n ers misoedd bod yn rhaid amddiffyn Cymru yn erbyn Brexit ac wedi s么n am ryw fath o ad-drefnu gwleidyddol yn y tymor byr er mwyn trio ei stopio," meddai.
"Felly pan oedd y cyfle yma'n codi yn yr isetholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, dwi'm yn meddwl bod ganddyn nhw lawer o ddewis rhag camu o'r neilltu.
"Mae hefyd yn eithaf di-risg o safbwynt arweinyddiaeth Adam Price.
"Mae'n gwneud hyn o sefyllfa o gryfder wedi gwneud cystal yn yr Etholiad Ewropeaidd, ac yn realistig doedden nhw ddim am ennill yr isetholiad yma.
"Oherwydd bod Brycheiniog a Sir Faesyfed yn etholaeth sydd 'efo hanes o ganlyniadau agos iawn fe all y penderfyniad yma, a phenderfyniad y Gwyrddion i gamu o'r neilltu yn yr un modd, wneud gwahaniaeth i'r canlyniad ar adeg bwysig yn y drafodaeth yngl欧n 芒 dyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd."
Dydd Gwener yw'r diwrnod olaf i gynnig ymgeisydd ar ar gyfer yr isetholiad.
Mae aelodau'r Blaid Geidwadol yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi dewis Mr Davies i fod yn ymgeisydd ar eu rhan unwaith eto.
Bydd yn wynebu Ms Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol, Des Parkinson o Blaid Brexit a Tom Davies o'r Blaid Lafur.
Mae'r Blaid Werdd wedi dweud na fydden nhw yn sefyll er mwyn rhoi gwell cyfle i ymgeisydd sy'n gwrthwynebu Brexit.