Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cofio Hon? Arwerthiant o bosteri eiconig Cymraeg
Os oedd un o'r posteri yma ar eich wal flynyddoedd yn 么l, mae'n bryd i chi fynd i fyny i'r atig i chwilota amdano.
Oherwydd mae posteri eiconig o rai o gerddi enwocaf Cymru ar werth mewn arwerthiant yng Nghaerdydd - a'r pris o gwmpas 拢100 yr un.
Cyngor Celfyddydau Cymru oedd tu cefn i'r fenter yn yr 1970au ac roedd y gwaith yn boblogaidd ar waliau tai ac ysgolion yn ystod yr 1980au a'r 1990au.
Roedd y gyfres yn cynnwys rhai o gerddi enwocaf Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg - yn cynnwys Hon, gan TH Parry Williams, Eifionydd, gan R Williams Parry a Fern Hill, gan Dylan Thomas.
Yr artist a'r darlunydd o Gaerdydd Sue Shields gafodd ei chomisiynu gan y Cyngor Celfyddydau i wneud y peintiadau. Llun o gefn gwlad oedd cefndir Hon, er enghraifft, a'r L么n Goed oedd ar boster Eifionydd.
Fe gafodd rhai o'r lluniau gwreiddiol eu gwerthu ddwy flynedd yn 么l - yn cynnwys y darlun o'r gromlech ar gyfer cerdd Waldo Williams, Cofio. Fe gafodd ei brynu am 拢600.
Mae'r lithograff gwreiddiol o'r posteri, gafodd eu hargraffu gan Design System yng Nghaerdydd, nawr yn rhan o gasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Fe gafodd chwech o'r posteri eu hailargraffu yn ddiweddar gan gwmni Graffeg ond mae'r rhai sydd ar werth gan yr arwerthwyr Rogers Jones yn h欧n.
Meddai Ben Rogers Jones, o'r cwmni: "Mae'r posteri yma yn rhai o'r rhai gwreiddiol gafodd eu gwneud yn yr 1980au.
"Maen nhw i gyd yn dod o gasgliad un person - alla i ddim datgelu pwy sy'n eu gwerthu ond mae hi'n gasglwr Cymraeg adnabyddus."
Mae'r posteri - sydd wedi eu fframio ac yn disgwyl cael eu gwerthu am rhwng 拢80 a 拢120 - yn rhan o S锚l Gymreig y cwmni arwerthwyr, sy'n digwydd ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 6.
Ymysg yr eitemau eraill ar werth mae posteri Paul Peter Piech, gwaith celf Kyffin Williams, llythyr gan y bardd RS Thomas a chrochenwaith o Gymru.
Hefyd o ddiddordeb: