Protest amgylcheddol yn cau ffordd yng nghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr yng Nghaerdydd yn wynebu oedi hir ar ôl i ymgyrchwyr amgylcheddol rwystro ffordd yng nghanol y ddinas.
Fe wnaeth aelodau grŵp Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion), sy'n gobeithio codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, gasglu y tu allan i Gastell Caerdydd fore dydd Llun.
Dywedodd Cwmni Bysiau Caerdydd bod eu gwasanaeth yn wynebu "oedi difrifol" o ganlyniad.
Mae'r heddlu wedi rhybuddio y gallai gyrwyr wynebu problemau drwy gydol y dydd.
Mae'r ymgyrchwyr wedi rhoi cwch yng nghanol y stryd fel rhan o'r protestiadau.
Cafodd y ffordd ei chau o'r gyffordd â Heol y Frenhines a Heol y Porth.
Mae'r grŵp ymgyrchu yn bwriadu cynnal protestiadau tebyg mewn dinasoedd eraill ar hyd y DU gan gynnwys Leeds, Glasgow, Llundain a Bryste.
Dywedodd un o'r protestwyr: "Rydyn ni'n gobeithio dal y safle yma mor hir a fedrwn ni. Rydyn ni'n bwriadu aros yn heddychlon drwy gydol y brotest, dydyn ni ddim eisiau gweld trais nac ymddygiad bygythiol."
'Argyfwng amgylcheddol'
Yn ôl Gwrthryfel Difodiant Cymru, pwrpas y brotest yw tynnu sylw Llywodraeth Cymru "at yr angen i fynd i'r afael â'r argyfwng amgylcheddol".
Mae'r mudiad wedi dweud bod Caerdydd yn un o bum ninas ar draws y DU - yn ogystal â Llundain, Glasgow, Leeds a Bryste - ble byddan nhw'n cynnal digwyddiadau dros y dyddiau nesaf.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Staci Sylvan, aelod o'r grŵp: "Yn Sir Gâr, lle dwi'n byw, fe welsom ni lifogydd ofnadwy ym mis Hydref, doeddwn i erioed wedi gweld y fath beth.
"Cafodd 100 o bobl eu symud o'u cartrefi ac mae rhai yn dal i aros am gartrefi newydd... hefyd mae rhai busnesau sydd dal heb allu ailagor.
"Mae hyn yn fater o ddiogelu dyfodol fy mhlant, ond hefyd yn fater o gydraddoldeb, y bobl fwyaf tlawd sydd wastad yn dioddef fwyaf o ganlyniad i drychinebau amgylcheddol."
Ychwanegodd Macey Gray o Fethesda eu bod nhw'n bwriadu gwersylla tu allan i neuadd y ddinas tan ddydd Mercher o leiaf.
Dywedodd yr AC dros ranbarth Canol De Cymru, Andrew RT Davies, nad dyma'r ffordd orau i brotestwyr fynd ati i ennill cefnogaeth y bobl.
"Mae taclo newid hinsawdd yn fater hynod o bwysig, ac yn fater y mae'r mwyafrif o'r cyhoedd yn ei gefnogi," meddai.
"Ond, un ffordd o sicrhau nad yw pobl yn eich cefnogi chi yw tarfu ar eu cynlluniau - fel yr hyn a ddigwyddodd yng Nghaerdydd heddiw.
"Gobeithio bydd y protestwyr yn gwneud y peth iawn a dod â'r tarfu hyn i ben."
Mae Heddlu'r De wedi dweud y bydden nhw'n gwneud "popeth o fewn eu gallu" i leihau effaith y protestiadau ar gynlluniau teithio pobl dros y pum diwrnod nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd22 Mai 2019
- Cyhoeddwyd7 Mai 2019