Drakeford: Ymosodiad chwyrn ar lywodraeth Boris Johnson

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn hallt, wrth i Aelodau Cynulliad ddychwelyd o'u gwyliau haf yn gynnar.

Mewn ymosodiad chwyrn, dywedodd Mr Drakeford fod llywodraeth Boris Johnson "wedi colli pob parch tuag at y gwir" a hefyd wedi colli "ei chwmpawd moesol".

Cafodd Aelodau Cynulliad eu galw n么l er mwyn pleidleisio ar os oedd penderfyniad Boris Johnson i atal gwaith Senedd San Steffan yn "warth" neu beidio.

Daw yn sgil pryderon bod yr ataliad i'r Senedd yn ymgais i gyfyngu ar yr amser i ASau drafod Brexit.

Ond mae Arweinydd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, Paul Davies, yn dweud bod y ddadl yn "st峄硁t" sy'n mynd "dros ben llestri".

Mae'r Llywydd, Elin Jones, wedi gwadu honiadau ei bod hi'n dangos tuedd ar Brexit drwy ail-alw'r Senedd ym Mae Caerdydd.

'Argyfwng mwyaf ers Iwerddon'

Wrth feirniadu Mr Johnson, dywedodd Mark Drakeford: "Mae llywodraeth sydd heb barch at wirionedd wedi fforffedu'r parch y mae ein democratiaeth yn dibynnu arno.

"Dyna pam mae'n hanfodol ein bod yn gyrru neges glir o gefnogaeth i'r rheini yn San Steffan ac yn y llysoedd sydd nawr yn brwydr yn erbyn y camddefnydd yma o b诺er."

Yn 么l y gyfraith bresennol bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref.

Ond nos Fercher, fe wnaeth Aelodau Seneddol gefnogi mesur yn gorfodi'r prif weinidog i ofyn am estyniad i Brexit os nad oes cytundeb rhwng yr UE a'r DU.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd David Melding ei fod yn gwrthod bod yn rhan o orfodi Brexit heb gytundeb ar "y mwyaf bregus"

Yn y sesiwn, fe wnaeth y Ceidwadwr David Melding hefyd feirniadu Boris Johnson, gan ddweud bod y DU yn wynebu'r "argyfwng mwyaf ers yr argyfwng yn Iwerddon".

Dywedodd bod Brexit heb gytundeb yn "risg uchel fydd yn cael ei orfodi ar y mwyaf bregus" ac na fyddai'n rhan o hynny.

Ychwanegodd nad oedd yn amser "gyrru'r rhyddfrydwyr allan o'r blaid Geidwadol" - wrth gyfeirio at yr ASau sydd wedi colli chwip y blaid am wrthwynebu'r llywodraeth.

Bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar gynnig, sydd wedi 'i arwyddo gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, bod atal y Senedd yn "warth cyfansoddiadol" mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol.

Mae'n dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn achosi trafferthion byr dymor sylweddol yn ogystal 芒 niwed hir dymor i Gymru.

Y prif gynnig sydd 芒'r cyfle gorau o basio, ond mae ffynonellau wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod ACau Llafur yn ystyried cefnogi gwelliant Plaid Cymru yn galw am ddiddymu Erthygl 50.

Disgrifiad o'r llun, Cytunodd y Llywydd, Elin Jones i gais gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford i adalw'r Cynulliad

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod "llanast San Steffan" yn "cynrychioli system sydd wedi torri ac yn arwydd clir bod angen i ni yng Nghymru lansio trafodaeth adeiladol am ein dyfodol".

Mae Plaid Brexit yn bwriadu gofyn i ACau gefnogi "toriad clir" drwy Brexit, "yn sgil methiant llawer o ASau i dderbyn canlyniad refferendwm 2016 ac anhyblygrwydd yr UE wrth drafod".

Dywedodd Mr Davies: "Mae galw'r senedd yma yn 么l gan Lafur a Phlaid Cymru yn ddim ond st峄硁t wleidyddol sy'n mynd dros ben llestri."

Mae Mr Gething wedi dweud bod "canlyniadau real a niweidiol" i adael heb gytundeb, a bod y bleidlais yn "gyfle i aelodau yn y Cynulliad roi eu barn ar fater o argyfwng gwirioneddol".

Dywedodd AC UKIP, Gareth Bennett, na fyddi'n cymryd rhan yn y bleidlais.

'Ystyried barn y mwyafrif'

Ar raglen Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru fore Iau, bu'r Llywydd, Elin Jones, yn amddiffyn ei phenderfyniad i adalw'r Cynulliad yn gynt.

"Rwyf wedi h锚n arfer erbyn hyn a sylweddoli bod pob penderfyniad dwi'n 'neud yn mynd i gael ei gefnogi gan rhai aelodau a peidio cael ei gefnogi gan eraill", meddai.

"Wrth edrych yn 么l ar y penderfyniadau dwi wedi eu cymryd dros y misoedd diwethaf 'ma, dwi'n siwr na all Blaid Brexit fod o farn lle dwi ddim wedi cymryd ambell i benderfyniad lle 'ma nhw 'di bod yn hapus iawn gyda'r penderfyniad hynny, ac aelodau eraill o bleidiau eraill wedi bod yn anhapus.

"Felly dwi'n troedio llwybr sydd yn sicrhau bod barn y mwyafrif yn cael ei ystyried ar bob agwedd, ond hefyd bod barn a llais y pleidiau lleiafrifol - gan gynnwys Plaidy Brexit, UKIP ar adegau eraill ac aelodau anibynnol - yn cael eu llais."