'Dylai rhieni drafod rhoi organau gyda'u plant'
- Cyhoeddwyd
Dylai rhieni gynnwys eu plant mewn trafodaethau am roi organau yn 么l y corff sy'n cydlynu'r system trawsblaniadau yn y Deyrnas Unedig.
Mae sefydliad Gwaed a Thrawsblaniadau'r gwasanaeth iechyd (NHS BT) yn galw am hyn ar 么l i 42 o blant farw wrth ddisgwyl am galon newydd dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae maint calonnau ac ysgyfaint yn bwysig wrth eu trawsblannu oherwydd y lle cyfyngedig y tu mewn i'r frest ac mae angen i'r organau fod 芒 chryfder tebyg.
Ar gyfartaledd mae cleifion ifanc yn aros ddwywaith yn hirach nag oedolion am drawsblaniadau o'r fath.
Mae NHS BT yn tynnu sylw at y ffeithiau hyn ar Ddiwrnod Calon y Byd (dydd Sul 29 Medi) yn y gobaith y bydd teuluoedd yn siarad am roi organau.
Fe dreuliodd Lilly Kendall o Lanelli dri mis yn yr ysbyty ar 么l cael ei geni gyda chymhlethdodau i'w chalon.
Cafodd ei theulu gyngor gan feddygon i ddiffodd y peiriant oedd yn ei chadw'n fyw ond yn y pen draw llwyddodd y teulu i reoli ei chyflwr am naw mlynedd.
Ond yna dirywiodd ei hiechyd ac roedd angen trawsblaniad ysgyfaint a chalon arni.
Yn 11 oed, fe wnaeth hi siarad 芒 大象传媒 Cymru wrth aros am galon ac ysgyfaint newydd.
"Mae pethau i fyny ac i lawr cryn dipyn ar hyn o bryd. Byddai cael trawsblaniad yn arwain at fywyd gwell a byddai llawer mwy o gyfle i fi barhau'n fyw."
Dywedodd mam Lilly, Catherine, bod aros am yr alwad ff么n "fel byw ar bigau drain."
"Fel mam i chwech, mae'n rhaid i fi gael trefn a dal ati. Pan fydd gen i ddau funud i mi fy hun, mae gen i fy amser tawel, ond y rhan fwyaf o'r amser, rwy'n gwneud dim heblaw am grio. "
Ar y pryd, 16 o bobl yn unig oedd ar y rhestr aros trawsblaniad dwbl ac roedd llai na phump ohonyn nhw'n blant.
Ystadegau rhoi organau
Nid yw nifer y rhoddwyr organau ifanc wedi newid dros y blynyddoedd diwetha'.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos mai dim ond 56 o blant roddodd eu horganau yn 2018/19 ar draws y DU.
Y flwyddyn flaenorol, roedd 57 wedi rhoi, o gymharu 芒 55 o roddwyr ifanc yn 2013/14.
Yn yr un cyfnod, roedd cynnydd o 20% yn nifer yr oedolion rhoddodd organau.
Gan ei bod yn llawdriniaeth mor brin, roedd Catherine yn paratoi am y sefyllfa waethaf posib.
"Ry'n ni wedi cael llawer o sgyrsiau anodd - trafod ei hangladd a'r hyn byddai'n hoffi. Ac mae Lilly yn eithaf agored am hyn i gyd i fod yn onest. Lilly oedd yr un a ofynnodd am y sgyrsiau yn y lle cyntaf."
Fodd bynnag, wythnos ar 么l ei chyfweliad gyda 大象传媒 Cymru, cafodd Lilly alwad fyddai yn newid ei bywyd.
Fe wnaeth Catherine feichio crio ar 么l sylweddoli pwy oedd ar ben arall y ff么n.
Cafodd Lilly ei throsglwyddo ar frys i Ysbyty Plant Great Ormond Street yn Llundain, a bu am saith awr yn derbyn llawdriniaeth.
Roedd yr aros yn gyfnod poenus i'w mam.
"Doeddwn i ddim yn gwybod a oedd hi'n mynd i fyw. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w feddwl."
Ond roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus.
"Roedd ei hanadl gyntaf yn anhygoel. Wedi iddi gymryd yr anadliadau hynny roeddwn i'n gwybod y byddai'n iawn. Bu mewn gofal dwys am gyfnod.
"Pan ddeffrodd hi roedd hi'n dal o dan ddylanwad y meddyginiaethau, ond y peth cyntaf a ddywedodd wrtha i oedd 'Rwy'n dy garu di Mam'. "
Mae Lilly, sydd bellach yn 12, yn parhau i wella ac wedi dechrau mynd yn 么l i'r ysgol.
"Rwy'n teimlo'n anhygoel ac yn hapus iawn. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n goroesi heb y galon a'r ysgyfaint newydd hyn ac mae'r diolch i'r rhoddwr. Mae wedi fy achub mewn gwirionedd."
"Rwy'n lwcus iawn. Mae derbyn yr organau hyn yn hynod o arbennig i mi ac nid yn unig i mi, i'r teulu hefyd, oherwydd roedden i gyd yn meddwl na fydden ni yn goroesi."
Mae'r cyfan yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi organau yn 么l Catherine.
"Os na fyddai pobol yn rhoi organau - fyddai fy merch ddim yn fyw heddiw. Roedden ni yn eithaf si诺r nad oedd llawer o amser ganddi ar 么l."
Annog sgwrs
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu bod person yn rhoi organau os nad oedd y person hwnnw yn eithrio ei hunain o'r broses.
Gall plant unrhyw oed ymuno 芒 Chofrestr Rhoddwyr Organau'r Gwasanaeth Iechyd.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i rieni roi caniat芒d i roi eu horganau ar 么l iddynt farw.
Mae Angie Scales, prif nyrs bediatreg NHS BT yn esbonio bod plant yn gallu arwyddo'r gofrestr gan ychwanegu "os mai dyna yw eu dymuniad dyna beth ddylen nhw wneud, dylid eu hannog i wneud hynny."
Mae hi'n annog teuluoedd i gael sgwrs am roi organau.
"Mae plant yn agored iawn am siarad am lawer o bethau gan gynnwys marwolaeth ac rydyn ni fel oedolion yn aml yn gweld hynny'n fwy o her na nhw. Felly byddwch yn agored ac atebwch y cwestiynau sydd ganddyn nhw. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Medi 2018
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2018