Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tom Lawrence yng ngharfan Cymru wedi cyhuddiad yfed a gyrru
Mae asgellwr Cymru, Tom Lawrence, gafodd ei gyhuddo o yfed a gyrru yr wythnos ddiwethaf, wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer gemau yn erbyn Slofacia a Croatia.
Cafodd Lawrence, 25, ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad ar 么l noson allan gyda'i gyd-chwaraewyr i glwb Derby County.
Mae'r amddiffynnwr Ashley Williams hefyd yn 么l yn y garfan ar gyfer y rhagbrofol Euro 2020 ar 么l methu gemau yn erbyn Azerbaijan a Belarws fis Medi.
Hefyd yn dychwelyd i garfan Ryan Giggs mae'r ymosodwyr Tyler Roberts a Rabbi Matondo.
Bydd Cymru'n chwarae Slofacia oddi cartref ar 10 Hydref cyn croesawu Croatia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Hydref.
Mae disgwyl i Lawrence, wnaeth chwarae dros Derby nos Fercher, ymddangos yn y llys ddyddiau'n unig ar 么l y g锚m yn erbyn Croatia.
'Ddim yn benderfyniad hawdd'
Dywedodd Giggs bod cynnwys Lawrence "ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd".
"Rydw i wedi 'nabod Tom ers amser hir - fi roddodd ei ymddangosiad cyntaf i Manchester United iddo.
"O safbwynt p锚l-droed, fe chwaraeodd neithiwr [nos Fercher] gyda Derby ac roeddwn i eisiau iddo fod yn rhan o'r garfan - mae'n chwaraewr pwysig i ni."
Ychwanegodd Giggs y byddai'n "gweld sut y bydd yn hyfforddi cyn gwneud penderfyniad i'w ddechrau yn un o'r gemau".
Y capten yn 么l
Roedd Williams heb glwb pan gafodd ei hepgor gan Giggs am y gemau diwethaf, ond mae o bellach wedi ymuno gyda Bristol City.
Amddiffynnwr St Pauli, James Lawrence, sy'n gwneud lle yn y garfan i Williams.
Mae Matondo, sgoriodd ei g么l gyntaf dros Schalke yr wythnos diwethaf, yn dychwelyd i'r garfan yn dilyn anaf diweddar.
Mae ymosodwr Leeds United, Roberts, hefyd yn cael lle ymysg y blaenwyr gyda Gareth Bale, Sam Vokes, Tom Lawrence a Kiefer Moore.
Ben Woodburn a Ryan Hedges sy'n colli eu llefydd.
Bydd y cefnogwyr yn gobeithio gweld Aaron Ramsey yn 么l yng nghanol y cae ar 么l iddo fethu'r gemau rhagbrofol diweddar.
Mae Cymru yn bedwerydd yng ngr诺p E, ond maen nhw wedi chwarae un g锚m yn llai na'r timau eraill.
Carfan Cymru i wynebu Slofacia a Croatia:
骋么濒-驳别颈诲飞补颈诲
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerl欧r), Adam Davies (Stoke)
Amddiffynwyr
Chris Gunter (Reading), Ashley Williams (Bristol City), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Neil Taylor (Aston Villa), Connor Roberts (Abertawe), Ethan Ampadu (Leipzig - ar fenthyg o Chelsea), Chris Mepham (Bournemouth), Tom Lockyer (Charlton), Joe Rodon (Abertawe).
Canol cae
Aaron Ramsey (Juventus), Joe Allen (Stoke), Jonny Williams (Charlton), Harry Wilson (Bournemouth - ar fenthyg o Lerpwl), Matthew Smith (Queens Park Rangers - ar fenthyg o Manchester City), Daniel James (Manchester United), Will Vaulks (Caerdydd), Joe Morrell (Lincoln - ar fenthyg o Bristol City).
Ymosodwyr
Gareth Bale (Real Madrid), Sam Vokes (Stoke), Tom Lawrence (Derby County), Tyler Roberts (Leeds United), Rabbi Matondo (Schalke 04), Kieffer Moore (Wigan).