大象传媒

Liam Williams i golli g锚m De Affrica gydag anaf

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Liam Williams wedi ennill 62 o gapiau dros Gymru

Ni fydd y cefnwr Liam Williams ar gael i herio De Affrica yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd ddydd Sul ar 么l dioddef anaf i'w ff锚r.

Cefnwr y Scarlets, Leigh Halfpenny yw'r dewis amlwg i gymryd ei le ar gyfer y g锚m dyngedfennol yn Yokohama.

Mae'n debyg na fydd Williams ar gael ar gyfer gweddill y gystadleuaeth - gyda'r ffeinal a'r g锚m am y trydydd safle'n cael eu cynnal wythnos wedi'r rownd gynderfynol.

Bydd Cymru'n cyhoeddi'r t卯m i herio'r Springboks fore Gwener, tra bo'r gwrthwynebwyr eisoes wedi cyhoeddi eu t卯m nhw.

Cymru eisoes ar eu colled

Fe fydd Cymru'n wynebu De Affrica yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Stadiwm Yokohama ddydd Sul.

Mae Williams wedi cael tymor gwych, gan ennill Cwpan Pencampwyr Ewrop ac Uwch Gynghrair Lloegr gyda Saracens.

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd y canolwr, Jonathan Davies yn holliach chwaith i herio'r Springboks ar 么l colli'r fuddugoliaeth dros Ffrainc.

Mae Cymru eisoes wedi colli'r chwaraewr rheng-么l, Josh Navidi yr wythnos hon, gyda'r asgellwr Owen Lane wedi'i alw i'r garfan yn ei le.