Iwan John a Steffan Rhys Williams: Cynnig aren i helpu ffrind

Disgrifiad o'r llun, Roedd Iwan John a Steffan Rhys Williams yn siarad am y cynllun rhannui organau ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru

Wedi gweld iechyd ei ffrind, yr actor Iwan John, yn dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, penderfynodd y cerddor a'r cyfansoddwr Steffan Rhys Williams ei fod eisiau helpu drwy ymuno 芒 rhaglen rhoi organau.

Gydag un o'i arennau wedi marw a'r llall yn dirywio'n gyflym, mae'r rhaglen Drych: Aros am Aren ar S4C yn dilyn taith Iwan wrth i'r actor a'r digrifwr o Sir Benfro aros am drawsblaniad.

Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw fis Mehefin, esboniodd Iwan ei fod newydd gychwyn ar dialysis am fod ei arenau wedi methu ac yntau'n dal ar y rhestr aros am drawsblaniad.

Mae Steffan wedi adnabod Iwan ers bron i 20 mlynedd a phan ddangosodd profion nad oedd unrhyw un o deulu Iwan yn addas i fod yn rhoddwr aren iddo, cynigiodd Steffan gamu i'r adwy.

Ffynhonnell y llun, S4c

Disgrifiad o'r llun, Mae Iwan yn cael dialysis bedair gwaith y dydd tra'n aros am aren newydd

"Mae problemau wedi bod gyda Iwan gyda'i arenau ers sbel fawr a mynd yn waeth dros amser mae wedi mynd," eglurodd Steffan Rhys Williams.

"Blwyddyn neu ddwy yn 么l fi'n cofio Iwan yn dweud y bydde fe'n gorfod chwilio am aren newydd yn eitha' buan.

"Ryw noson, o'n i draw gyda Non [gwraig Iwan] a Iwan yn trafod hyn a dyma fi'n dweud 'roia' i aren i ti os ti mo'yn' a gadawon ni fe fanna."

Ond wrth i sefyllfa Iwan fynd yn fwy difrifol, penderfynodd Steffan bod yn rhaid iddo weithredu.

Ffynhonnell y llun, S4c

Disgrifiad o'r llun, Daeth Iwan John i adnabod Steffan Rhys Williams gyntaf drwy ei wraig Non Parri o'r band Eden, sy'n ffrind a chydweithiwr i Steffan

"Roedd wedi bod yn chwarae ar 'y meddwl i achos wrth i amser fynd ymlaen mae'n mynd yn fwy rhwystredig. Fi'n gwybod bod e wedi gorfod troi lawr gwaith achos hyn, felly o'n i'n gweld bod hwnna'n effeithio ar y teulu i gyd," meddai.

"Wedyn oedd hwnna'n hala fi i feddwl, 'Fe wnes i ddweud' ac o'n i 'di bod yn meddwl amdano fe ers sbel, so es i 'mlaen."

System gyfnewid

Mae'r broses o weld a yw aren yn cyfateb yn un hir sy'n cymryd misoedd.

Yn anffodus, doedd arenau Steffan ddim yn hollol addas i Iwan. Ond drwy ymuno 芒'r system cyfnewid organau gyda'i gilydd mae wedi galluogi Steffan i roi aren er mwyn i Iwan gael un gan rywun arall.

"Mae Steff a fi nawr wedi mynd mewn i'r loteri bach 'ma, sharing scheme yw e, lle ni'n edrych am ddau fel ni - mae eu ffrind nhw'n penderfynu rhoi aren iddyn nhw hefyd," esbonia Iwan.

Meddai Steffan: "Ar 么l mynd trwy'r profion i gyd, dyw'n aren i ac aren Iwan ddim yn match ffantastig ac mae'n well i Iwan gael aren sy'n matsio mor agos 芒 phosib achos mae'n meddwl nad yw'n gorfod cymryd gymaint o anti-rejection pills.

"So, y gorau i gyd yw'r match, y gorau i gyd yw e. 'Dyw Iwan a fi ddim yn berffaith match felly mae'n well iddo gael aren well."

Mae 'na barau tebyg yn yr un sefyllfa 芒 nhw dros y wlad, meddai Steffan.

"Felly mae chance bod 'y'n aren i yn siwtio falle un person o'r p芒r a bod y person arall o'r p芒r yna, bod eu aren nhw yn siwtio Iwan yn well."

Ffynhonnell y llun, S4c

Disgrifiad o'r llun, Dywed S4C y bydd Iwan wedi clywed os oes aren yn cyfateb iddo erbyn y rhaglen

Mae Iwan yn disgwyl clywed os yw ei gais i gyfnewid organau yn dod yn realiti ac yn 么l S4C mi fydd wedi derbyn y newyddion - naill ffordd neu'r llall - erbyn i raglen Aros am Aren gael ei darlledu ar nos Sul, 10 Tachwedd.

Doedd Iwan ddim yn si诺r a oedd eisiau gwneud y rhaglen i ddechrau ond penderfynodd ei fod eisiau siarad am y salwch i ddangos bod angen organau a'i bod yn bosib rhoi un aren yn unig.

"Mae function yn 100% ar un aren - mae'n rhyfeddol, sai'n gwybod pam mai dau 'da ni!" meddai.

"Mae'n bwysig i bobl wybod bod hwnna'n gallu digwydd fel bod pobl yn meddwl am roi, achos hyd yn oed gyda'r peth opt out i roi organau mae still eisiau rhoi mwy o organau i bobl - mae dal yn sych mas 'na.

"Mae lot o ffrindiau Steff wedi cael profion hefyd a fyddwn i'n licio diolch iddyn nhw am roi eu hunain ymlaen hefyd. Falle bod dim lot o s么n yn y rhaglen am hwnna ond licen i ddiolch i bawb sy'n rhoi eu henwau ymlaen, mae'n beth mawr.

"...mae angen organau. Plis, os allwch chi roi, rhowch."

Ffynhonnell y llun, S4c

Disgrifiad o'r llun, "Ar 么l mynd trwy'r profion i gyd, dyw'n aren i ac aren Iwan ddim yn 'match' ffantastig ac mae'n well i Iwan gael aren sy'n matsio mor agos 芒 phosib," meddai Steffan Rhys Williams sy'n ffrindiau gydag Iwan John ers blynyddoedd