Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Comisiynydd yn gadael dros 'recordiadau cyfrinachol AC'
Mae'r comisiynydd sy'n delio 芒 chwynion am wleidyddion yng Nghymru wedi ymddiswyddo ar 么l i Aelod Cynulliad recordio ei sgyrsiau cyfrinachol.
Dywedodd Comisiynydd Safonau'r Cynulliad, Syr Roderick Evans, bod sgyrsiau am "faterion cyfrinachol a sensitif" wedi eu recordio'n ddirgel.
Mae cyn-AC Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi dweud mai ef wnaeth y recordiadau.
Bydd yr heddlu'n cael cais i ymchwilio ac mae'r Cynulliad wedi trefnu archwiliad o'r yst芒d.
Mae Mr McEvoy yn honni ei fod wedi canfod tystiolaeth sy'n dwyn anfri ar swyddfa Syr Roderick, a'i fod wedi ymddwyn yn gyfreithlon.
Dywedodd Syr Roderick, sy'n gyn-farnwr, bod ymddygiad Mr McEvoy yn "gwbl annerbyniol". Mae wedi cael cais i ymateb i honiad Mr McEvoy.
'Tanseilio'r broses'
Yn 么l y comisiynydd roedd y sgyrsiau'n cynnwys "cyfeiriadau at achosion sydd wedi eu dwyn gan y cyhoedd".
Dywedodd bod y recordio "o bosib yn anghyfreithlon" ac wedi digwydd "dros gyfnod o sawl mis".
Yn ei ddatganiad, ychwanegodd Syr Roderick bod recordio sgyrsiau 芒 staff yn "tanseilio" proses gwynion y sefydliad ac yn "dwyn anfri" ar y broses ddemocrataidd.
Dywedodd felly nad oedd yn fodlon parhau yn y r么l, gan ddiolch i'w staff am eu gwaith.
Mae Mr McEvoy, sydd bellach yn aelod annibynnol, yn honni bod Syr Roderick "wedi dwyn anfri ar ei swyddfa".
Dywedodd ei fod wedi "ymddwyn yn gyfreithlon ac er budd y cyhoedd".
'Mater difrifol iawn'
Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, ei bod wedi derbyn ymddiswyddiad Syr Roderick, ac y byddai'r dasg o chwilio am ei olynydd yn dechrau.
Dywedodd: "Mae recordio dirgel o sgyrsiau preifat yn fater difrifol iawn a byddwn yn gofyn i Heddlu De Cymru ymchwilio i sut y cafodd recordiadau o'r fath eu gwneud.
"Mae trefniadau am archwiliad o yst芒d y Senedd i ddarganfod unrhyw offer gwrando sydd heb eu caniat谩u."
Er gwaethaf ymadawiad Syr Roderick, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething y dylai ymchwiliadau oedd eisoes ar y gweill "gael eu cwblhau".
Ychwanegodd Mr Gething y byddai'n "synnu'n fawr petai unrhyw gomisiynydd newydd yn penderfynu dechrau gyda llechen lan".
Llynedd daeth Syr Roderick dan y lach am benderfynu nad oedd fideo o AC Llafur yn rhywiaethol.
Ond cafodd ei gyhuddo o fod 芒 safonau dwbl eleni pan awgrymodd y dylid ceryddu AC Plaid Cymru am ddefnyddio gair rheg ar Twitter.