Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Iestyn Tyne yw bardd preswyl Eisteddfod Genedlaethol 2021
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Iestyn Tyne fydd bardd preswyl Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd.
Bydd yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal Boduan yn Ll欧n yn haf 2021, y tro cyntaf i'r Brifwyl gael ei chynnal yn ardal Ll欧n ac Eifionydd ers 1987, pan gynhaliwyd yr 诺yl ym Mhorthmadog.
Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod benodi bardd preswyl, a'r bwriad yn 么l yr Eisteddfod fydd i "gofnodi'r gwaith ar lawr gwlad mewn ffordd gyffrous a newydd".
Bydd y bardd yn creu cerddi i adlewyrchu'r hyn sy'n cael ei gynnal yn lleol.
Wrth ymateb i'w benodiad dywedodd Mr Tyne: "Braint o'r mwyaf i mi yw cael fy mhenodi yn fardd preswyl ar gyfer y cyfnod rhwng r诺an ac Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd 2021.
"Mae'r ffaith i mi gael fy magu dafliad carreg o faes yr eisteddfod honno yn gwneud y cyfle yn un arbennig iawn ar lefel bersonol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio 芒 phobl o bob math o gefndiroedd sy'n byw ym mro'r eisteddfod dros y ddwy flynedd nesaf."
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Cafwyd ymateb arbennig i'r cyfle hwn, a nifer o geisiadau gwirioneddol dda.
"Felly llongyfarchiadau gwresog i Iestyn ar gael ei ddewis i ymgymryd 芒'r gwaith."