McEvoy yn cyhuddo comisiynydd o fod yn rhywiaethol

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Syr Roderick Evans (chwith) ymddiswyddo o'i r么l ddydd Llun

Mae Aelod Cynulliad wedi amddiffyn ei benderfyniad i recordio sgyrsiau cyfrinachol Comisiynydd Safonau'r Cynulliad, Syr Roderick Evans.

Cadarnhaodd Neil McEvoy ei fod wedi recordio Syr Roderick, ac mae'n ei gyhuddo o wneud sylwadau dilornus ar sail rhyw, dangos tuedd, llygredd a llywodraethu dros "ddiwylliant ystafell newid".

Roedd Syr Roderick yn ymchwilio i dri achos yn erbyn Mr McEvoy, gan gynnwys honiad o ddefnyddio 拢5,000 ar waith adeiladu yn ei swyddfa yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth Syr Roderick ymddiswyddo o'i r么l ddydd Llun ar 么l i recordiadau o'i sgyrsiau ddod i'r amlwg.

Dywedodd Syr Roderick bod "nifer o bethau sydd wedi dod allan yn y cyfryngau wedi cael eu cymryd allan o gyd-destun ac yn gamarweiniol".

Cynnwys yr ymchwiliad

Mewn trawsgrifiad o'r recordiadau sydd wedi'i rhyddhau i'r wasg, mae'n ymddangos fod Syr Roderick yn dweud fod problemau gyda dau amcan bris ar gyfer gwaith adeiladu.

"Nid oedd modd dangos os oedden nhw'n rhai dilys," meddai.

Ychwanegodd bod "rhaid i ni ystyried os ydyn nhw yn rai ffug ac os dylai gael ei gyfeirio at yr heddlu".

Ffynhonnell y llun, Youtube

Disgrifiad o'r llun, Roedd Mr McEvoy yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth

Mewn cynhadledd i'r wasg, dywedodd Mr McEvoy ei fod wedi cymryd y pris isaf a'i fod wedi "arbed arian y cyhoedd". Dywedodd nad oedd yn si诺r beth oedd Syr Roderick "yn siarad amdano".

"Doedd y prisiau ddim i wneud 芒 mi. Fe gymerais i nhw mewn ewyllys da."

Ychwanegodd fod yr adeiladwr yn "rhywun roeddwn yn ei adnabod, fe roddodd dendr i mewn am y gwaith. Dyma oedd y tendr isaf."

'Colli tymer'

Mater arall dan sylw oedd pan gollodd ei dymer gydag AC Llafur Mick Antoniw.

"Dwi'n cyfaddef fy mod wedi colli fy nhymer. Roeddwn yn fygythiol tuag ato."

Ond dywedodd ei fod yn teimlo fod Mr Antoniw yn bod yn haerllug.

"Os oedd yr unigolyn wedi'i dramgwyddo yn sgil fy ymddygiad, yna dwi'n ymddiheuro wrth Mick," meddai.

Roedd y comisiynydd hefyd yn ymchwilio i honiadau fod Mr McEvoy wedi camddefnyddio arian y Cynulliad i ymgyrchu'n wleidyddol.

Mae Mr McEvoy wedi gwrthod yr honiadau gan ddweud: "Mae'n rhyfedd dydy, bod aelod o Blaid Cymru yn defnyddio ei swyddfa er budd Plaid Cymru."

Disgrifiad o'r llun, Mae Elin Jones yn dweud y bydd hi yn gwneud cwyn i'r comisiynydd dros dro ynghylch ymddygiad Neil McEvoy

Derbyniodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, ymddiswyddiad Syr Roderick, a dywedodd y byddai'n dechrau ar y broses o benodi comisiynydd dros dro, ac olynydd parhaol.

Dywedodd bod recordio sgyrsiau preifat yn gudd yn "dor-ymddiriedaeth difrifol" a'i bod wedi gofyn i Heddlu De Cymru ymchwilio i sut y cafwyd recordiadau o'r fath.

Ychwanegodd bod trefniadau i archwilio yst芒d y Senedd i ddod o hyd i unrhyw ddyfeisiau gwrando, a'i bod yn bwriadu gwneud cwyn i'r comisiynydd dros dro ynghylch ymddygiad Mr McEvoy.

Mae Mr McEvoy wedi galw ymateb y Llywydd yn "chwerthinllyd".

'Dweud pethau ofnadwy'

Fe wnaeth Mr McEvoy recordio sgyrsiau gyda Syr Roderick yn ystod proses o ymchwiliad i'w ymddygiad, gan ddal sgyrsiau tra oedd Mr McEvoy y tu allan i'r ystafell.

Dywedodd yr AC ei fod wedi penderfynu recordio'r sgyrsiau ar 么l i'w swyddfa roi pecynnau sain iddo o'r gwrandawiadau, ac ar 么l iddo glywed y sylwadau gafodd eu gwneud gan y comisiynydd a'i staff.

"Roedd pethau ofnadwy yn cael eu dweud amdana i ar y recordiau swyddogol. Roedd yn swnio i mi fel eu bod i gyd yn cynllwynio i ddinistrio fy ngyrfa wleidyddol," meddai Mr McEvoy.

Dywedodd bod y gwrandawiadau i gyd wedi digwydd ar safle'r Cynulliad, a bod gwerth oriau o recordiadau ar ei ff么n symudol.

Fe allai'r ff么n fod wedi bod mewn bag neu siaced. Ni ddywedodd wrth y comisiynydd na'r staff ei fod yn recordio.

Disgrifiad o'r llun, Roedd rhai o'r sgyrsiau gafodd ei recordio yn cynnwys sylwadau am AC Plaid CYmru, Leanne Wood yn 么l Mr McEvoy

Fe wnaeth gyhuddo'r comisiynydd o ailadrodd "safbwyntiau rhywiaethol" yn y recordiau, gan gynnwys awgrymu y dylai Leanne Wood gymryd cam yn 么l yn ystod sesiynau.

Ychwanegodd Mr McEvoy fod "tueddiadau amlwg yn erbyn rhai ACau, nid yn unig fi", a dywedodd fod cwynion difrifol yngl欧n 芒 bwlio ddim yn cael eu dilyn "gan nad oedd yr AC penodol yn eu golwg".

"Roedd yna ddiwylliant pryfoclyd yn swyddfa'r comisiynydd sydd yn dod yn amlwg yn y recordiadau," meddai.

Yn 么l Mr McEvoy mae'r broses gwyno yn wleidyddol.

'Torri rheolau'

Dywedodd ei fod wedi clywed am g诺yn gafodd ei galw'n ddi-sail ond "oherwydd y cysylltiad gwleidyddol rhwng y ddwy blaid ni wnaethon nhw ei daflu allan yn syth".

Dywedodd ei fod wedi clywed am sgwrs yngl欧n 芒'r frwydr rhwng Plaid Brexit a Llafur. Fe wnaeth Mr McEvoy gyhuddo Syr Roderick o ysgogi cwyn yn ei erbyn.

Ychwanegodd fod rheolau "gwarchod data yn cael eu torri" a bod pobl wedi neidio i'r penderfyniad nad oedd modd ymddiried yn Mr McEvoy.

"Cyn belled a dwi yn y cwestiwn, roedd y dyn wedi cael ei roi yno i wneud ei waith arna i," meddai.

Dywedodd Mr McEvoy hefyd fod ei staff wedi cael eu rhoi dan "bwysau parhaus" dros y ddwy flynedd diwethaf, a bod lefelau cyfnodau salwch wedi cynyddu.